Gerddi a Rhandiroedd

P’un ai’n fawr neu’n fach, mae pob gardd yn gartref posib i fywyd gwyllt. Mae gerddi yn hynod bwysig i fywyd gwyllt, nid yn unig drwy ddarparu bwyd a lloches i amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid, ond hefyd drwy ffurfio “pont” naturiol rhwng ardaloedd adeiledig a rhai agored sy’n gadael i fywyd gwyllt symud rhwng y naill a’r llall yn gymharol hawdd. Mae gerddi hefyd yn gallu darparu cynefinoedd a all fod yn absennol o’ch ardal leol, fel pyllau a safleoedd gaeafu neu nythu addas.

Mae yna 15 miliwn gardd yn y Deyrnas Unedig sy’n cyfateb i tua 270,000 hectar, sy’n fwy nag ardal pob Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn y DU. Efallai bod pob gardd ar ei phen ei hun yn fach, ond gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio brithwaith o gynefinoedd i fywyd gwyllt.

Pwrpas creu gardd sy’n addas i fywyd gwyllt yw gwneud lle sy’n dda i blanhigion ac anifeiliaid ond hefyd yn dda i chi. Does dim rhaid i chi gael gardd fawr, cloddio pwll neu hau dôl blodau gwyllt i greu noddfa posib ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau. Gall wneud y pethau bychain, fel peidio â ‘thacluso’ gwair, gwrychoedd, llwyni, ffrwythau sy’n syrthio i’r ddaear a dail gael effaith fawr.

Mae hanfodion garddio bywyd gwyllt wedi’i seilio ar bedwar peth: coed, pren marw, dŵr ac amrywiaeth plannu. Gall unrhyw un o’r rhain annog bywyd gwyllt i’ch gardd neu dir ysgol a’i helpu i ffynnu.

CYNGOR CAMPUS i ARDDWYR BYWYD GWYLLT

  1. Tyfwch gymysgedd o blanhigion brodorol ac addurnol yn eich gardd. Cynhwyswch blanhigion neithdar a rhai sydd â llawer o baill a fydd yn blodeuo ar wahanol amser o’r dydd a’r flwyddyn – bydd y rhain yn darparu ffynonellau bwyd i wenyn a phryfed eraill. Mae coed a llwyni ffrwyth hefyd yn ffynhonnell fwyd gaeafol dda ar gyfer adar a mamolion – gadewch ychydig o ffrwyth ar y goeden neu adael ffrwythau cwymp i ddenu ymwelwyr gaeafol fel yr asgell goch a chaseg y ddrycin. Mae torri lawr ar luosflwydd yn y gwanwyn yn hytrach na’r hydref yn darparu hadau fel ffynhonnell fwyd arall i adar, ynghyd â darparu lloches werthfawr i bryfed sy’n gaeafu.
  2. Meddyliwch yn ofalus am y cynnyrch gardd rydych chi’n ei brynu. Cyfyngwch ar ddefnydd cemegion – pam ddim annog gelynion naturiol plâu (fel adar, adain siderog a buchod coch cwta) i ddod i’ch gardd. Defnyddiwch wellt i leihau tyfiant chwyn a dewiswch fathau o blanhigion a all wrthsefyll heintiau. Peidiwch â defnyddio cynnyrch o gynefinoedd sydd mewn perygl e.e. mawn a chompost sy’n cynnwys mawn (o fawnogydd) a chynnyrch pren caled (o goedwigoedd glaw trofannol).
  3. Crëwch nodwedd dŵr, heb bysgod os yw’n bosib, ac mi fyddwch yn annog amffibiaid i’ch gardd (a fydd yn gallu eich helpu i reoli gwlithenni a malwod). Drwy blannu planhigion ger y dŵr byddwch hefyd yn darparu lle pwysig i weision y neidr a mursennod fridio. Bydd nodwedd dŵr hefyd yn rhoi lle i adar yfed.
  4. Crëwch gynefinoedd ychwanegol i fywyd gwyllt yn eich gardd. Gall fesurau syml megis tyfu planhigion sy’n dringo yn erbyn ffensiau a waliau noeth ddarparu ffynonellau bwyd ychwanegol yn eich gardd ynghyd â lloches a llefydd i adar nythu. Y mwyaf o gynefinoedd y gallwch chi eu darparu yn eich gardd, y mwyaf o fywyd gwyllt y byddwch yn ei ddenu.
  5. Ailgylchwch yn eich gardd. Rhowch ddeunydd planhigion a gwastraff gegin yn y compost – mae’n rhoi cyflyrydd pridd gwych i chi am ddim! Mae pentyrrau compost hefyd yn darparu cynefin pwysig i sawl rhywogaeth, fel neidrau defaid a phryfed (sydd yna yn darparu ffynhonnell fwyd bwysig i adar fel drywod). Pam ddim gosod casgen ddŵr i ddal dŵr glaw i’w ddefnyddio yn eich gardd. Ailddefnyddiwch ddeunyddiau o’ch gardd – mae pren marw mewn pentwr yn darparu cynefin defnyddiol i sawl rhywogaeth, gan gynnwys ffwng, pryfed ac ymlusgiaid.

Mae yna lawer o awgrymiadau ychwanegol ar gael ar y gwefannau canlynol:

Am fwy o wybodaeth ar greu gerddi a thiroedd ysgol sy’n addas i fywyd gwyllt cliciwch yma.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i archwilio gwahanol gynefinoedd trefol.