Gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd

Mae gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn broblem y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei chymryd o ddifrif ac mae ganddo bolisi o beidio â goddef dim.

Ymhlith y problemau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd y mae difrod amgylcheddol ac amharu ar fywyd gwyllt, mae’n beryglus i ddefnyddwyr eraill y parc ac yn eu cythruddo ac mae’n cael effaith negyddol ar dwristiaeth.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â gweithgareddau gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn y parc a gallwch lenwi’r ffurflen isod i wneud adroddiad am ddigwyddiadau penodol.

Mae’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu’n bwysig, mae’n ein galluogi i greu darlun a chanolbwyntio ein hadnoddau ar ardaloedd lle y ceir problem. Caiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo i’r heddlu hefyd iddynt gael ymateb iddi.

Gwneud adroddiad am weithgareddau gyrru'n anghyfreithlon oddi ar y ffordd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Heddlu Dyfed-Powys

Er mwyn cael defnyddio eich adroddiad fel tystiolaeth bydd angen i chi lenwi Datganiad Tyst i Heddlu Dyfed Powys

Dylid anfon hwn at

PC Rob Griffiths 68

Prif Swyddfa Ranbarthol Heddlu Dyfed Powys

Plas y Ffynnon

Ffordd Cambrian

Aberhonddu LD3 7HP

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.