Gyrru Oddi-ar-y-ffordd Anghyfreithlon
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cymryd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon yn ddifrifol iawn gyda pholisi goddef dim.
Mae'r problemau sy'n gysylltiol â gweithgareddau gyrru oddi-ar-y-ffordd yn cynnwys niwed amgylcheddol, cynnwrf i fywyd gwyllt, perygl, a blinder i ymwelwyr eraill i'r parc, yn ogystal ag effaith negyddol ar dwristiaeth.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgareddau gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon o fewn y parc ac fe allwch lenwi'r ffurflen isod i adrodd unrhyw achosion penodol.
Mae'r wybodaeth a rowch i ni yn bwysig, ac yn ein galluogi i gael syniad o'r ardaloedd sy'n broblemus er mwyn ffocysu ein hadnoddau arnynt. Byddwn hefyd yn pasio'r wybodaeth hon i'r Heddlu er mwyn iddyn nhw ymateb iddi.
