Wardeiniaid Gwirfoddol Bro’r Sgydau

Cynllun Peilot Gwirfoddol yw hwn a gafodd ei lansio fis Ebrill mewn partneriaeth â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Mae’r cynllun newydd yn disodli’r hen gynllun Gwarchod y Maes Parcio, ac mae wedi ei greu er mwyn cynnig presenoldeb cyfeillgar ac agos atoch gan Wirfoddolwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn tri safle allweddol ym Mro’r Sgydau yn ystod y prif dymor ymwelwyr.

Mae’r cynllun wedi ei greu er mwyn ychwanegu at y ddarpariaeth gwasanaethau ymwelwyr ym Mro’r Sgydau sydd eisoes ar gael, a chynnig cyngor, gwybodaeth a sicrwydd pellach i’r cyhoedd. Y tri safle dan sylw yw:

Maes Parcio Gwaun Hepste, Maes Parcio Clun Gwyn, Maes Parcio Craig y Ddinas

Nod y cynllun yw gofalu am yr ardaloedd hyn yn eu tro ar benwythnosau, gwyliau’r banc rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, a dyddiau’r wythnos yn achlysurol mewn cyfnodau prysur yn ystod gwyliau’r haf rhwng 9:30 a 4pm. Bydd arddangosfa reolaidd o bamffledi a mapiau ar fyrddau gwybodaeth.

Mae’r cynllun yn agored i unigolion dros 18 a bydd gofyn i Wirfoddolwyr ymroi o leiaf 10 diwrnod i’r cynllun yn ystod ei gyfnod gweithredol. Bydd gofyn i unigolion sydd â diddordeb fynychu cyfarfod cychwynnol yn gyntaf er mwyn trafod y rôl cyn cael eu gwahodd i fynychu hyfforddiant grŵp a sesiynau cynefino pellach.

Am ragor o wybodaeth, ewch i broffil Rôl Wardeiniaid Gwirfoddol Bro’r Sgydau yma.