Awgrymiadau a Chyngor ynghylch gwneud Cais

  • Ymchwiliwch mewn i’r swydd a’r cwmni.
  • Darllenwch y cyfarwyddiadau gwneud cais yn drylwyr, a’u dilyn.
  • Cwblhewch bob adran berthnasol – enw, cyfeiriad, addysg a hyfforddiant, hanes cyflogaeth, manylion canolwyr (gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol eich bod wedi defnyddio eu manylion), etc.
  • Mae’n hanfodol eich bod yn cyfeirio at y ‘Manyleb Bersonol’ a fydd yn y Pecyn Swydd. Er mwyn cael eich rhoi ar y rhestr fer mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf ‘hanfodol’. Darllenwch hysbyseb y swydd yn fanwl a gwneud yn siŵr eich bod yn gwbl glir ar ba sgiliau sydd eu hangen.
  • Peidiwch â chyflwyno ffurflen gais sy’n cynnwys newidiadau/esiamplau o groesi allan a gwiriwch unrhyw sillafiadau nad ydych chi’n siŵr ohonynt, ac yn ddelfrydol gwnewch gopi o’r ffurflen gais er mwyn i chi wneud copi bras cyn cwblhau’r ffurflen gais wreiddiol.
  • Gwiriwch ac ail-wiriwch sut mae’r ddogfen derfynol yn edrych.
  • Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth sydd ddim yn wir – os cewch chi’r swydd mi fydd yn fater difrifol os ydych chi’n fwriadol wedi cynnwys gwybodaeth anwir ar eich ffurflen gais.
  • Rhaid arwyddo a dyddio’r ffurflen gais.
  • Anfonwch y ffurflen gais i’r cyfeiriad sydd arni.
  • Defnyddiwch yr un ffurflen gais i bob swydd – mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich cais yn ffitio’r swydd rydych chi’n gwneud cais ar      ei chyfer – gall hyn olygu gwneud newidiadau bychan, ond a fydd      yn gwneud y gwahaniaeth yn y pen draw!

Awgrymiadau Cyfweliad

  • Cyn y diwrnod gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod union leoliad y cyfweliad.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd y cyfweliad mewn digon o bryd (o leiaf 20 munud ymlaen llaw) – bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ymlacio a pharatoi.
  • Dysgwch gymaint ag y gallwch chi am y sefydliad a’r swydd rydych wedi ceisio amdani. Ceisiwch ragweld rhai o’r cwestiynau a pharatoi atebion addas ar gyfer y rhain.
  • Meddyliwch yn gadarnhaol – dim ond os ydym yn cael yr argraff o’ch ffurflen gais y gallwch wneud y swydd y cewch chi gyfweliad – meddyliwch am yr holl resymau y dylech chi gael y swydd.
  • Ymarferwch cyn y cyfweliad, ymarfer siarad amdanoch chi’ch hun a’ch cyraeddiadau
  • Dywedwch y gwir o hyd.
  • Paratowch ddatganiad amdanoch chi y gallwch ei ddefnyddio os cewch chi’r cyfle – eich cryfderau, beth y gallwch chi ei roi i’r swydd, dyheadau ar gyfer eich gyrfa, etc.
  • Gwnewch gyswllt llygad â’r cyfwelydd – a chofiwch wenu!
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth orau phosib am eich hun.
  • Peidiwch â bod yn ofn gofyn i’r cyfwelydd ailadrodd cwestiwn neu ofyn i’r cyfwelydd egluro cwestiwn os nad ydych chi wedi ei ddeall yn iawn.
  • Peidiwch ag ateb yn rhy gyflym, meddyliwch am beth rydych chi am ei ddweud cyn ymateb.
  • Peidiwch â gwisgo’n rhy anffurfiol – mae cyfweliad yn ddigwyddiad ffurfiol.
  • Peidiwch â dweud celwydd yn y cyfweliad – mi fyddai’n fater difrifol os ydych chi’n cael y swydd ac ein bod wedyn yn dod i wybod eich bod wedi dweud celwydd yn y cyfweliad.
  • Peidiwch â gadael y cyfweliad cyn cael gwybod beth yw’r cam nesaf – sut byddwch yn cael gwybod y canlyniad.