Y Broses Ymgeisio

Ceisiadau ar hap
Yn anffodus, nid ydym ar hyn o bryd yn cyfateb ceisiadau ar hap i swyddi a all ddod yn wag rywbryd yn y dyfodol. Dylech ddim ond cyflwyno ceisiadau ar gyfer swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu. Byddwn yn cael gwared ag unrhyw geisiadau eraill rydym yn eu derbyn yn unol â gosodiadau Deddf Diogelu Data 1998.

Creu rhestr fer
Ar ôl y dyddiad cau penodol, bydd ceisiadau’n cael eu hanfon at yr adran berthnasol er mwyn creu rhestr fer. Mae pob ymgeisydd yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf sydd ym ‘Manyleb y Person’ yn y Pecyn Swydd. Mae’r ymgeiswyr sy’n bodloni gofynion y meini prawf orau yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Mae hyn fel arfer yn cael ei wneud o fewn wythnos neu ddwy o’r dyddiad cau.

Cyfweliad i Ddethol
Bydd y broses ddethol yn dibynnu ar y math o swydd rydych chi wedi ymgeisio amdani.

Ar gyfer pob swydd wag, cynhelir cyfweliad gerbron panel, ac os yn berthnasol, rhyw ffurf arall o asesu (cyflwyniad neu brawf ymarferol sy’n berthnasol i’r swydd).

Cais am Ganolwyr
Bydd nifer y canolwyr angenrheidiol yn dibynnu ar y swydd rydych chi’n ymgeisio amdani. Y canllaw cyffredinol ydy:

Ymgeiswyr allanol – 2 ganolwr

Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn gwirio os yw’r canolwyr yn foddhaol.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd gan eich canolwyr cyn ychwanegu eu manylion at eich ffurflen.

Cynnig Swydd
Bydd Adnoddau Dynol yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus ac yn cael cynnig swydd. Bydd hyn yn amodol ar brawf meddygol a chanolwyr addas.

Os yw’r swydd yn amodol ar dderbyn Datgeliad boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol, nodir hynny yn y ‘Manylion eraill’.

Os yw’r ymgeisydd llwyddiannus yn dod o wlad tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, ac nad yw wedi priodi rhywun sydd o’r Ardal honno, fel arfer bydd angen Trwydded Waith arno. Eto, bydd ei apwyntiad yn amodol ar hyn.

Bydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghyd â’r llythyr cynnig a chytundeb yn cael ei anfon atoch chi.

Treuliau
Os ydych chi am hawlio treuliau, anfonwch eich ffurflen, ynghyd â’ch derbynebau, at yr Adran Adnoddau Dynol. Ar ôl derbyn yr hawliad treuliau, caiff ei anfon at yr Adran Gyllid i’w dalu.

Monitro Cyfle Cyfartal
Mae’r Awdurdod yn monitro’r broses recriwtio er mwyn sicrhau bod y polisi cyfle cyfartal yn cael ei weithredu’n effeithiol.

Llenwch yr adran Monitro Recriwtio ar y ffurflen gais. Mae’r wybodaeth hon yn gyfrinachol ac ni fydd ar gael i’r panel recriwtio. Mae’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu’n deg wrth gyflogi pobl.

Os oes gennych chi anabledd sy’n eich rhwystro rhag bodloni unrhyw ran o’r meini prawf, nodwch hyn yn eich cais. Awgrymwch beth y gallwn ni ei wneud i’ch helpu chi i fodloni’r meini prawf. Os oes gennych chi anabledd byddwn yn cynnig cyfweliad i chi cyhyd â’ch bod yn bodloni anghenion hanfodol y swydd.

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn diffinio “anabledd” fel:

“Nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ac yn y tymor hir ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol.”

Cyngor ac Awgrymiadau ynghylch Gwneud Cais