Mae mynediad yn allweddol i fwynhad a dealltwriaeth o’r Parc Cenedlaethol, a’n nod yw hybu mynediad cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd priodol a chynaliadwy nad ydynt yn gwrthdaro â’n hamcanion cadwraeth.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys amrywiaeth eang o gefn gwlad hardd. Mae tirwedd y Parc yn cael ei dominyddu gan y bryniau a’r mynyddoedd agored, ond mae mwy i’r Parc Cenedlaethol na chopaon uchel.
Mae’r iseldiroedd yr un mor eithriadol ac yn cynnwys rhaeadrau cudd, tir fferm tonnog, afonydd troellog ac ardaloedd coediog, sy’n barod i gael eu harchwilio.
Mae’r tirwedd amrywiol yn golygu bod rhywbeth i bawb. P’un ai eich bod chi’n mwynhau’r her o gerdded mynyddoedd neu fod yn well gennych fynd am dro trwy gaeau a choetiroedd, neu ger camlas neu afon, cewch ddigon i’w wneud. Mae rhwydwaith helaeth o hawliau tramwy cyhoeddus yn gorchuddio mwy na 1,980 cilometr (llwybrau, llwybrau ceffylau a chulffyrdd) yn y Parc, sy’n caniatáu i ymwelwyr archwilio’r ardal ar droed, ac ar gefn ceffyl neu ar feic.
Gallwch hefyd gerdded yn rhydd ar draws ardaloedd mawr o’r Parc Cenedlaethol o ganlyniad i Mynediad Agored a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.
Mae’r hawliau tramwy cyhoeddus canlynol wedi cael eu cau dros dro tra bod gwaith cynaeafu yn cael ei gyflawni gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru:
Cysylltwch â’r Adran Hawliau Tramwy os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Mae tirlithriad mawr wedi digwydd ar arglawdd rheilffordd na chaiff ei ddefnyddio yn GR 865182 rhwng Penwyllt a Bwlch Bryn-rhudd, lle mae’r rheilffordd yn cyfarfod â’r A4067.
Mae’r cwymp tir ar Dir Mynediad, ond mae hawliau mynediad wedi cael eu gwahardd hyd nes i’r ardal gael ei sefydlogi er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Felly, nid yw’n bosibl cerdded o Benwyllt i Bwlch Bryn-rhudd ar yr hen reilffordd.
Peidiwch â mynd yn agos at y tirlithriad, sydd yn ansefydlog a gall cwymp arall ddigwydd. Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2010.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor i ymwelwyr â chefn gwlad, ffermwyr a pherchenogion tir. Os byddwch yn dilyn y Cod Cefn Gwlad, byddwch yn gwneud y gorau o’ch ymweliad ac yn diogelu cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
