Cwestiynau rheolaidd a ofynnir am gofebau

Cwestiwn: Alla i chwalu llwch yn y Parc Cenedlaethol?

Mae chwalu llwch mewn lleoliadau oedd yn golygu llawer i’ch anwyliaid pan oedden nhw’n fyw yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Os ydych chi eisiau chwalu llwch yn y Parc Cenedlaethol, dylech wneud yn siŵr fod y lle rydych chi wedi’i ddewis yn agored i’r cyhoedd – er enghraifft, llwybr troed neu dir comin.

Dangoswch barch at ddefnyddwyr cefn gwlad eraill wrth i chi chwalu’r llwch, os gwelwch yn dda.

Cyn i chi benderfynu ble i wneud hyn, efallai y dylech feddwl sut y byddwch chi’n teimlo am hyn yn nes ymlaen. Os ydych chi’n meddwl y byddech chi neu deulu neu ffrindiau eraill eisiau mynd i’r safle a choffau’r person sydd wedi marw, yna dylech ddewis mynwent neu safle claddu glas i roi eich anwylyd i orwedd am y tro olaf, oherwydd fydd hi ddim yn bosib i chi adael cofadeiliau yn y wlad mewn safle agored.

Cwestiwn: A oes modd i mi goffau rhywun yn y Parc Cenedlaethol?

Byddai Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch iawn o dderbyn rhoddion ariannol i hybu’i waith ond nid yw’n cynnig gwasanaeth i osod meinciau neu blaciau nac i blannu coed yn benodol er mwyn cofio am aelodau’r cyhoedd. Os ydych chi eisiau cael coffadwriaeth barhaol i’ch anwylyn, yn enwedig os ydych chi’n bwriadu ymweld â’r lle i adael blodau, byddai mynwent neu safle claddu glas yn fwy addas ar gyfer eich anghenion ar gyfer gorffwysfa derfynol.

Cwestiwn: Pa fath o gofeb allai fod yn addas yn y Parc Cenedlaethol?

Mae pobl wedi gofyn yn y gorffennol am blannu coeden i gofio neu ddarparu mainc goffadwriaethol mewn lle cyhoeddus ond does gennym ni mo’r adnoddau i gynnig y gwasanaeth hwn i’r cyhoedd a byddem ni’n argymell eich bod chi’n ystyried defnyddio un o’r Safleoedd Claddu Glas swyddogol ble mae gennych ddewis plannu coeden.

Gallech hefyd ystyried cyfrannu at gynnal a chadw llecyn hardd arbennig oedd yn hoff gan eich anwylyn, naill ai gyda’r Awdurdod neu drwy gefnogi elusen arbennig – er enghraifft mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog yn gofalu am sawl Gwarchodfa Natur yn y Parc Cenedlaethol ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar y Bannau Canol a mannau hard eraill.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnal llyfr coffadwriaeth ar gyfer pobl sydd eisiau cofio’u hanwyliaid, yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus (gweler http://www.breconbeacons.org/national-park-visitor-centre).

Cwestiwn: Beth sy’n digwydd os dewch ar draws cofebau wedi’u gadael ar lwybrau?

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd i bawb sy’n ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ynghyd â’r bobl sy’n byw yma. Bydd ein wardeniaid yn darganfod potiau plastig a arferai ddal llwch pobl ac weithiau gofadeiliau megis blodau mewn gorchudd plastig neu blaciau. Pan fydd ein wardeniaid yn dod o hyd i nwyddau o’r fath byddan nhw’n mynd â nhw i ffwrdd ac yn gadael neges i esbonio beth sydd wedi digwydd ac â phwy y dylech chi gysylltu os dymunwch hawlio’r eitemau yn ôl.

Bydd sefydliadau eraill hefyd yn tynnu cofebau i ffwrdd; bydd yr awdurdodau priffyrdd lleol fel arfer yn tynnu’r rhai a adawyd ar ochr y ffordd a bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn tynnu rhai a adawyd ar eu heiddo hwy i ffwrdd (mae hyn yn cynnwys Pen y Fan).

I gael manylion cyswllt y cynghorau sirol neu fwrdeistref sirol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a heddluoedd rhanbarthol, ewch i:

http://www.monmouthshire.gov.uk/home/streets-parking-and-transport

http://www.torfaen.gov.uk/en/TransportStreets/TransportAndStreets.aspx

http://www.blaenau-gwent.gov.uk/transport.asp

http://www.merthyr.gov.uk/english/transportandstreets/pages/default.aspx

http://www.rctcbc.gov.uk/en/transportstreets/transportandstreets.aspx

http://www.powys.gov.uk/en/roads-transport-parking/

http://www.carmarthenshire.gov.uk/english/transport/pages/home.aspx

http://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/

http://www.dyfed-powys.police.uk/

https://www.gwent.police.uk/

http://www.south-wales.police.uk/