Ffilmio yn y Parc

Os ydych chi’n chwilio am leoliad ffilmio a fydd yn eich cyfareddu, does dim angen i chi fynd cam ymhellach!

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhai o’r tirweddau mwyaf amrywiol a syfrdanol yn Ewrop.

Lleolir mynydd Pen y Fan yn y Parc Cenedlaethol, a’i gopa llorweddol unigryw gydag arlliw o goch – y copa uchaf o Hen Dywodfaen Coch ym Mhrydain – yn ogystal â rhai o raeadrau, ogofâu a cheunentydd coediog mwyaf trawiadol y Deyrnas Unedig. Mae’r dirwedd yn frith o henebion cynhanesyddol, olion Rhufeinig, a chestyll canoloesol.

Yn eu geiriau nhw….

  • Diolch yn fawr i’ch staff – roedd y gwaith ffilmio wedi mynd fel cloc. Roedd y lleoliad lai na hanner diwrnod i ffwrdd o Lundain mewn car, ac roedd hynny’n fantais fawr. Cawsom groeso cynnes gan bawb, roedd y lleoliad yn wefreiddiol a gallwch fod yn sicr y byddwn yn dod nôl eto i ffilmio yn y dyfodol”. Rheolwr cynhyrchu ffilm fawr, King Arthur).
  • “Mae’r Bannau Brycheiniog yn drysor cudd. Roedd yn lleoliad ffantastig ar gyfer Stardust. Mae’r dirwedd ddramatig a’r golygfeydd ysblennydd yn berffaith ar gyfer ffilmio. Roedd yn bleser gweithio yno.” Matthew Vaughn – Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Stardust.

Ble ydyn ni?

Map rhanbarthol

Lleoliad yn Ewrop

Cyngor arbenigol

Does dim angen i chi wastraffu oriau di-ben-draw yn gwneud gwaith ymchwil a thrafod. Mae ein rheolwyr ardal arbenigol yn nabod y Parc Cenedlaethol fel cefn eu llaw a gallant ddelio â’ch holl faterion ymarferol, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i ddatrys unrhyw broblemau.

FFIOEDD TYNNU LLUNIAU MASNACHOL A FFILMIO

Os ydych chi am ffilmio neu dynnu lluniau masnachol ar dir sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu sy’n cael ei reoli ganddo, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol drwy’r Tîm Cyfathrebu.  Byddwn yn trafod ffioedd ar gyfer ffilmio a thynnu lluniau masnachol ar sail unigol.  Mae’r ffioedd isod yn rhoi syniad o’r costau, ond gall y rhain amrywio yn dibynnu ar natur y cais, y lleoliad, maint y criw a’r cast, sensitifrwydd amgylcheddol, a faint o amser Swyddogion y Parc Cenedlaethol fydd ei angen i baratoi ar gyfer eich ymweliad. Mewn rhai achosion, ac yn dibynnu ar y lleoliad, mae’n bosib y bydd rhaid cytuno ar ganran o’r ffioedd ffilmio gyda Chymdeithasau Pori Lleol a/neu berchnogion tir eraill. Cofiwch fod yr HOLL refeniw o ffilmio a wneir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael ei ailfuddsoddi mewn prosiectau cadwraeth yn y Parc Cenedlaethol – fel arfer yn y lleoliad lle rydych chi wedi bod yn ffilmio. Yn syml, wrth ddewis dod i ffilmio yn y Parc Cenedlaethol, rydych chi’n helpu i warchod ei nodweddion arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

FFIOEDD DANGOSOL   Y diwrnod (heb gynnwys TAW)
Ffilm fawr/ Hysbysebu/ffilm hyrwyddo   o £3500+
Amser staff y Parc Cenedlaethol   £300 y diwrnod
Costau cerbyd (yn cynnwys tanwydd)   o £100+ y diwrnod

Pob ffilm / ffotograffiaeth arall, cysylltwch â film@beacons-npa.gov.uk      


Y broses
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn croesawu’r ffaith bod pobl yn dewis dod i ffilmio a thynnu lluniau masnachol ar ein tir.  Rydym yn cydnabod y sylw ychwanegol a’r manteision ariannol i’n cymunedau, ar yr amod nad yw hynny’n effeithio ar nodweddion arbennig yr amgylchedd a’r dirwedd warchodedig. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi bob amser barchu preifatrwydd a thawelwch meddwl y bobl sy’n byw, yn gweithio neu’n pori’r tir.

Wrth wneud ymholiad cychwynnol, nid ydym yn gofyn i chi am esboniad cynhwysfawr o’ch cynlluniau, dim ond syniad cyffredinol o’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud. Mae gennym wybodaeth gadarn am yr ardal leol a gallwn eich cynorthwyo wrth ddewis lleoliadau. Os ydych chi eisoes yn gwybod lle rydych chi am ffilmio, ac nid ni sy’n berchen ar y tir nac yn ei reoli, yna gallwch eich helpu i gysylltu â’r tirfeddiannwr os oes angen. Os ydych chi am ffilmio ar dir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, byddwn yn gofyn i chi lenwi Ffurflen Gais i Ffilmio. Rydym yn deall y byddwn weithiau’n cael ceisiadau i ffilmio heb lawer o rybudd ymlaen llaw, ond mae’n bwysig rhoi cymaint o rybudd â phosib oherwydd efallai bydd angen mwy nag un caniatad. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd angen caniatâd Gwaith sy’n Debygol o Achosi Niwed i Nodwedd Arbennig (OLDSI) gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru os ydych yn bwriadu ffilmio ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Efallai hefyd bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol os bydd gofyn addasu adeiladau presennol neu adeiladau strwythurau dros dro ar gyfer eich set, neu os bydd y cyfnod ffilmio’n mynd y tu hwnt i’r 28 diwrnod yr hawliau Datblygiad a Ganiateir. Bydd y ddolen ganlynol yn agor y Nodyn Canllaw Cynllunio perthnasol i Ymgeiswyr.

Gall y Tîm Cyfathrebu eich helpu i gysylltu â’r sefydliadau a’r adrannau priodol, yn ôl y gofyn. Ar ôl cyflwyno cais, cytunir ar y lleoliad a’r ffi ac wedyn byddwn yn sefydlu Cytundeb Ffilmio rhyngoch chi a’r Awdurdod. O safbwynt straeon newyddion sy’n torri heb fawr o rybudd, dylai’r criwiau gysylltu â’r Tîm Cyfathrebu er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Wardeniaid
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn neilltuo un o’n Wardeniaid i’ch cynhyrchiad am y cyfnod cyfan neu ran ohono. Rôl y Warden fydd monitro gweithgareddau’r criw ffilmio, goruchwylio unrhyw faterion amgylcheddol, rheoli mynediad y cyhoedd i hawliau tramwy ac i’w tir, hysbysu ymwelwyr eraill am y gweithgarwch arbennig sy’n mynd ymlaen, gwarchod adnoddau a darparu gwybodaeth am iechyd a diogelwch. Oherwydd bod rhaid i ni neilltuo Warden a’i dynnu oddi wrth ei waith arferol, byddwn yn gofyn i gwmnïau cynhyrchu dalu’r holl gostau sydd ynghlwm wrth ddarparu Warden ar leoliad.

Tir Comin, Cymdeithasau Porwyr a thirfeddiannwyr eraill
Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol berthynas waith dda gyda’r Cymdeithasau Pori lleol a thirfeddiannwyr o fewn y Parc. Dylai unrhyw waith ffilmio geisio peidio ag amharu ar yr anifeiliaid a’r amgylchedd naturiol. Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cysylltu â’r Cymdeithasau Pori perthnasol, y Cyngor Cymuned (os oes angen) ac unrhyw dirfeddiannwyr eraill â diddordeb cyn bod y gwaith ffilmio’n dechrau. Os oes angen, byddwn hefyd yn helpu i drefnu bod anifeiliaid yn cael eu hel neu eu hail-leoli ac mae’n bosib y codir ffi ychwanegol am hyn.

Peidiwch byth â ffilmio ar dir y Parc Cenedlaethol heb ganiatâd.

Ffurflen gais filmio

Ffioedd Filmio 2022