Y Broses Gorfodi Cynllunio

Mae’r tudalennau hyn yn cyflwyno’r fframwaith ar gyfer swyddogaeth Gwasanaeth Gorfodi’r Gwasanaethau Cynllunio yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r dull a fydd yn cael ei fabwysiadu wrth ddelio â thor-rheolaeth cynllunio yn ôl darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd cael gwasanaeth gorfodi cynllunio effeithiol yn y Parc Cenedlaethol ac mae wedi sefydlu Tîm Gorfodi pwrpasol sy’n gyfrifol am ymchwilio i adroddiadau am dor-rheolaeth cynllunio. 

Fodd bynnag, gall sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau cynllunio gymryd amser a gall fod yn gymhleth. Mewn sawl achos, bydd yr Awdurdod yn ceisio cyd-drafod i sicrhau cydymffurfio yn hytrach na mynd ar drywydd gweithredu ffurfiol er, yn yr achosion hynny lle gwneir difrod neu niwed amgylcheddol difrifol i amwynderau preswylwyr cyfagos, neu lle caiff difrod ei achosi i dirweddau, coed a/neu adeiladau rhestredig gwarchodedig, bydd yr Awdurdod yn defnyddio ystod lawn ei bwerau gorfodi i ddod â’r mater o dan reolaeth yn gyflym.

Gall yr Awdurdod ddefnyddio’i bwerau gorfodi’n effeithiol dim ond pan fydd digon o dystiolaeth gadarn ar gael i ddangos yn glir bod tor-rheolaeth cynllunio a/neu dor ar reolaeth adeilad rhestredig wedi digwydd.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.