Beth yw tor-rheolaeth cynllunio?
Mae dau brif ddull o allu torri rheolaeth gynllunio:
- Gwaith adeiladu neu weithrediadau peirianneg neu newidiadau yn y defnydd ar dir neu adeiladau sy’n cael eu gwneud heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol.
Fodd bynnag, nid yw pob gwaith adeiladu/peirianneg neu newidiadau mewn defnydd yn gofyn am gael caniatâd cynllunio. Naill ai ystyrir nad yw llawer ohonynt yn ddatblygiad o gwbl neu cânt eu hystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir', sy’n golygu nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd angen caniatâd cynllunio ar godi estyniad bach i dŷ neu sied yn yr ardd, sydd o fewn cyfyngiadau penodol (fe'i dosberthir yn 'ddatblygiad a ganiateir').
- Lle rhoddwyd caniatâd cynllunio ond ni ddilynwyd y cynlluniau cymeradwy a/neu yr amodau a oedd ynghlwm wrth y gymeradwyaeth yn gywir.
Er enghraifft, gall adeilad fod yn fwy o faint na’r hyn sydd wedi’i ddangos ar y cynlluniau cymeradwy neu efallai torrwyd amod sy’n pennu oriau gwaith busnes. I gynorthwyo â nodi toriadau o’r fath, mae’r Awdurdod yn cydweithio ag adrannau rheoli adeiladu’r awdurdod lleol. Os oes amheuaeth o dor, cynhelir ymweliad â safle i sicrhau bod y datblygiad yn cyd-fynd â'r cynlluniau cymeradwy.
