Beth yw Gorfodi?

Er bod gwneud gwaith heb awdurdod ar adeilad rhestredig neu goeden warchodedig yn drosedd, nid yw cyflawni datblygiad neu ddefnydd sydd heb ganiatâd cynllunio cywir yn anghyfreithlon nac yn drosedd. Heb awdurdod y mae hyn ac ni chyflawnir unrhyw drosedd. Dim ond pan fydd yr Awdurdod wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi ffurfiol neu hysbysiadau tebyg, pan fydd pob cam apelio wedi cael eu defnyddio a phan fydd y cyfnodau ar gyfer cydymffurfio wedi dod i ben, y bydd y sawl sy’n gyfrifol am y defnydd neu’r datblygiad heb awdurdod yn agored i gael ei erlyn ac, o’i gael yn euog, cael cofnod troseddol.

Mae gan y sawl y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo hawliau apelio y mae’n rhaid eu parchu a gall hyn achosi tipyn o oedi cyn i’r mater gael ei ddatrys.

Gall yr Awdurdod ddefnyddio’i bwerau gorfodi’n effeithiol dim ond pan fydd digon o dystiolaeth gadarn ar gael i ddangos yn glir bod tor-rheolaeth cynllunio wedi digwydd.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.