Beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fydd yn cael cwyn, bydd yr Awdurdod:

  • Yn cydnabod cwynion cyn pen 5 diwrnod gwaith o’r gŵyn yn cyrraedd.
  • Yn asesu a yw’r gŵyn a’r dystiolaeth ategol yn cynnig datblygiad heb awdurdod (wedi’i ddiffinio o dan Adran 55 y Ddeddf) sy’n teilyngu ymchwiliad.
  • Os nad oes digon o dystiolaeth i ategu’r gŵyn, bydd yr achwynydd yn cael gwybod na fydd y mater yn cael ei gofrestru hyd nes bod y wybodaeth angenrheidiol wedi cael ei darparu.
  • Ar ôl cael dogfennaeth ddigonol, bydd y mater yn cael ei gofrestru a’i gategoreiddio yn unol â’r system flaenoriaethu (mae hwn yn parhau yn y Siarter Gorfodi Cynllunio).
  • Bydd achwynwyr yn cael gwybod am gyfeirnod yr achos a’r flaenoriaeth a roddwyd i’r achos, ac amcangyfrif o amserlen pan fydd ymweliad cychwynnol â’r safle’n debygol o gael ei gynnal.
  • Yn ymchwilio i fanylion y gŵyn
  • Yn sefydlu a fu tor-rheolaeth cynllunio neu dor-rheolaeth adeilad rhestredig.
  •  Yn ceisio cyd-drafod datrysiad gyda’r “troseddwr” os oes modd atal y datblygiad/defnydd neu os oes posibilrwydd y gellid rhoi caniatâd cynllunio.
  • Yn rhoi gwybod i’r achwynydd na fydd unrhyw gamau yn yr arfaeth, lle na ddeuir o hyd i doriad.
  • Os bu tor-rheolaeth cynllunio, byddwn yn casglu digon o dystiolaeth gadarn er mwyn bod yn fodlon y gall gweithredu ffurfiol gael ei gyfiawnhau.
  • Yn ystyried buddioldeb cymryd camau gorfodi ffurfiol, o ystyried y Cynllun Datblygu a phob ystyriaeth berthnasol arall.
  • Os nad yw’r Awdurdod yn ystyried bod camau gorfodi ffurfiol yn fuddiol, yna bydd yn hysbysu’r achwynydd yn ysgrifenedig o’r rheswm/rhesymau pam nad yw’r Awdurdod yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Pam gall camau gorfodi gymryd cyhyd?

Mae llawer o’r rhesymau wedi cael eu hesbonio uchod ond, yn aml, mae’n rhwystredig i’r achwynwyr fod y gweithgarwch sy’n achosi pryder yn parhau er eu bod wedi cysylltu â’r Awdurdod. Mae rhai o’r ffactorau sy’n rhoi’r argraff bod y gweithredu yn araf yn cynnwys:

  • casglu tystiolaeth foddhaol, gadarn;
  • parhau i gyd-drafod er mwyn ceisio datrys y mater gyda’r troseddwr heb fynd ar drywydd camau ffurfiol;
  • ystyried cais sy’n anelu at gywiro’r mater; ac
  • aros am benderfyniad apêl yn erbyn hysbysiadau ffurfiol.
Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.