Siarter Gorfodi Cynllunio ac Arweiniad Polisi’r Llywodraeth
Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Siarter Gorfodi Cynllunio cymeradwy. Dylid darllen y siarter ar y cyd â Chylchlythyr 10/97 (Gorfodi rheolaeth gynllunio: darpariaethau deddfwriaethol a gofynion gweithdrefnol) a Nodyn Cyngor Technegol 9 (Cymru) Gorfodi Rheolaeth Gynllunio.
Mae rheoliadau gorfodi Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bŵer diamod y gellir ei ddefnyddio dim ond pan fydd gwneud hynny yn briodol, a dylai unrhyw weithredu fod yn gymesur â difrifoldeb y tor-rheolaeth cynllunio. Mae Adran 73A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990/1 (fel y’i diwygiwyd) yn cynnwys darpariaeth benodol sef bod modd rhoi caniatâd cynllunio er mwyn unioni datblygiad a wnaed eisoes. Mae Arweiniad Polisi’r Llywodraeth yn dweud yn glir na ddylid cymryd camau gorfodi dim ond i wneud yn iawn am absenoldeb caniatâd cynllunio mewn achosion lle bo datblygiad fel arall yn dderbyniol o safbwynt ei rinweddau cynllunio.
I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter Gorfodi Cynllunio ac Arweiniad Polisi arall y Llywodraeth, cliciwch ar un o’r dolenni canlynol:
- Siarter Gorfodi Cynllunio - diwygiwyd Gorffennaf 2011
- Cylchlythyr 10/97 Gorfodi Rheolaeth Gynllunio: Darpariaethau Deddfwriaethol a Gofynion Gweithdrefnol (Saesneg yn unig)
- TAN 9 – Gorfodi Rheolaeth Gynllunio 1997
