Treftadaeth

Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i amrywiaeth fawr o bensaernïaeth bwysig: cestyll Normanaidd a ffermdai canoloesol, ardaloedd o adeiladau o’r 17eg a’r 18fed ganrif o fewn y prif aneddiadau ac adeiladau gwledig gwych iawn ar wasgar yn yr ardal, sy’n aml wedi cadw nodweddion gwreiddiol fel teils carreg, sgriniau a ffenestri myliynog.

Drafft o Feini Prawf ar gyfer Rhestr Leol

Rydym yn croesawu eich barn ar y Meini Prawf ar gyfer Rhestr Leol, sy'n rhoi mwy o fanylion am ddehongli a gweithredu polisi 3 Rhan 1 y Cynllun Datblygu Unedol, polisi Q11 y CDU, a thema un ym mlaenoriaethau gweithredu Cynllun Rheoli'r Parc, sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer yr asedau treftadaeth y dylid eu rhoi ar Restr Leol.

Estynnir gwahoddiad i chi roi sylwadau fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Nod y Meini Prawf ar gyfer Rhestr Leol yw helpu i ddatblygu a chyflwyno rhestr leol o asedau treftadaeth a diogelu a gwella amgylchedd hanesyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Lawrlwythwch gopi o Ddrafft Ymgynghorol y Meini Prawf ar gyfer Rhestr Leol

Rhowch eich sylwadau i ni am ein Nodyn Arweiniad drafft erbyn 14 Hydref 2011, naill ai

drwy anfon neges e-bost at rosie.burton@breconbeacons.org  neu

yn ysgrifenedig at
Rosie Burton
Swyddog Cadwraeth
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP

Rhannu’ch barn

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, ein bwriad yw rhoi copïau o’r sylwadau a gafwyd ar gael i’r cyhoedd.  Byddwn yn rhagdybio y gall eich ymateb fod ar gael i’r cyhoedd oni bai eich bod chi’n nodi’n glir eich bod chi’n dymuno bod yr holl sylwadau neu rai ohonynt yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Diogelu Data

Bydd gwybodaeth sy’n cael ei darparu gan ymatebwyr i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei chadw a’i defnyddio at ddibenion gweinyddu’r ymarfer presennol hwn.  OS ydych chi’n cyflwyno sylwadau, mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch enw a’ch cyfeiriad ar restr i’w defnyddio ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol ar bynciau tebyg.

Edrychwn ymlaen at gael eich sylwadau.

Canllaw Dylunio Blaen Siopau

Yn dilyn ymgynghoriad, cymeradwyodd yr Awdurdod y Canllaw Dylunio Blaen Siopau i'w ddefnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Mae'r canllaw dylunio'n rhoi mwy o fanylion am ddehongli a gweithredu Polisïau G3, G5, G6, Q13, Q14, Q16, Q17, Q18 a Q19 yn ymarferol mewn perthynas â dylunio blaenau newydd i siopau.

Mae'r ddogfen gymeradwyo ar gael i'w lawrlwytho yma

Canllaw Dylunio Blaen Siopau wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod (Mai 2011) (Saesneg yn unig)

 

Ardal Gadwraeth Talgarth

Mae’r Parc Cenedlaethol wedi ymgynghori'n ddiweddar ar yr Arfarniad drafft o Ardal Gadwraeth ar gyfer Talgarth. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 10 Gorffennaf a 31 Awst 2010.

Cymeradwyodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddiwygiadau i Ardal Gadwraeth Talgarth. Mae manylion yr Arfarniad o Ardal Gadwraeth a'r ardal gadwraeth estynedig ar gael i'w lawrlwytho isod.

********
Mae pensaernïaeth eglwysig y Parc hefyd yn gyfoethog iawn, gydag Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, llawer o eglwysi canoloesol pwysig a rhai o gapeli cynnar yr anghydffurfwyr.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cyngor a pheth cymorth grant, sy’n cefnogi’r defnydd ar arddulliau, technegau a deunyddiau traddodiadol fel morter calch, fframiau ffenestri derw a lliwiau paent priodol i’r cyfnod. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod treftadaeth y gorffennol yn cael ei diogelu a’i throsglwyddo cymaint â phosibl, gan gydbwyso hyn ag anghenion y genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth sydd i ddod.

Caiff adeiladau eu gwarchod trwy

  • gael eu rhestru gan Cadw. Mae tua 1,500 o adeiladau rhestredig, gan gynnwys 29 adeilad Gradd I ac 86 adeilad Gradd II (Ionawr 1999)
  • bod yn un o bedair Ardal Gadwraeth y Parc neu 
  • fod ym mherchenogaeth cyrff fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rosie Burton ar 01874 620433

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.