Beth yw Cynllun Datblygu?

BETH YW CYNLLUNIAU DATBLYGU A PAM Y MAENT YN BWYSIG?

Mae cynllun datblygu’n destun ysgrifenedig a map sydd yn gosod y cledrau am ddefnydd a datblgyiad tir  yn y dyfodol. Caiff ei baratoi mewn ymgynghoriad â’r cyhoedd  a grwpiau a chyrff cyfranogol a buddiannol.

Mae paratoi Cynllun Datblygu’n ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob Awdurdod Cynllunio Lleol.

Teitl y Cynllun Datblygu i’r Parc Cenedlaethol yw’r Cynllun Datblygu Unedol.  Sefydlodd deddf cynllunio newydd yn 2004 (Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004) fath newydd o gynllunio o dan y teitl "Cynllun Datblygu Lleol” sydd bellach yn y camau cychwynnol o gael ei baratoi.

Beth fydd y Cynllun Datblygu yn ei gyflawni?

Mae’n rhoi strategaeth hir-gyfnod am ddatblygiad.  Mae’r Cynllun yn ystyried effeithiau hir-gyfnod datblygiad ar ein cymunedau a’n tirwedd. Mae’n cynnwys strategaeth sydd yn anelu at reoli datblygiad tir ac adeiladau mewn ffordd sydd yn gweddu â dibenion y Parc Cenedlaethol ac egwyddorion ehangach cynaliadwyedd.  

Mae’n gosod Polisïau Manwl a Chlustnodi Tir: Gwireddir y strategaeth hir-gyfnod trwy gyfrwng polisïau manwl sydd yn gosod sut y trinir argymhellion penodol am ddatblygiad. Hefyd bydd y Cynllun yn clustnodi tir ar gyfer datblygu.

Polisi Cynllunio Cenedlaethol: Paratoir Cynlluniau Datblygu yng nghyd-destun  Canllawiaeth Polisi Cynlluno Cenedlaethol

Pwy fydd yn defnyddio’r Cynllun Datblygu? Nid dogfen strategaeth awyr las sydd yn casglu llwch ar y silff mo cynllun datblygu. Caiff ei ddefnyddio bob dydd.

>          Gan ein swyddogion rheoli datblygiad sydd yn defnyddio’r polisïau i benderfynu a ddyled rhoi caniatâd cynllunio ai peidio. .

·         Gan ymgeiswyr am ganiatâd  a’r gymuned sydd yn cael darllen y cynllun er mwyn asesu ymlaen llaw sut y bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn adweithio i argymhelliad am ddatblygiad.

Beth yw’r perthynas rhwng Cynlluniau Datblygu a Cheisiadau am Ganiatâd Cynllunio?  Mae llawer o bobl heb sylweddoli’r hyn sydd mewn cynllun atblygu awdurdod lleol nes i gais am ganiatâd cynllunio effeithio arnynt.

Fel arfer, bydd cynlluniau datblygu’n gosod yr egwyddor o ba ddefnydd yr argymhellir am ddarn o dir cyn y ceir cais cynllunio am ddatblygiad.

Pan fydd cynllun datblygu wedi ei sefydlu, bydd yn fwy anodd o lawer i herio’r angen am ddatblygu unrhyw dir  adeg y cais am ganiatâd. Bydd y rhai sydd am wneud sylwadau ar gais cynllunio el arfer ond yn dylanwadu ar fanylion mân o sut y datblygir tir yn hytrach nag  ar a ddylai gael ei ddatblygu o gwbl.

Darllenwch wybodaeth fanylach ar y gyfundrefn Cynlluniau Datblygu yng Nghymru

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.