Ynghylch 1APP
O 1 Hydref 2008, bydd angen i chi gyflwyno pob cais newydd i’r awdurdod gan ddefnyddio 1APP – yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn yr hen ffurflenni wedi hynny. 1APP yw’r newid mwyaf i’r system gynllunio ers blynyddoedd.
Bydd y Ffurflen Gais Safonol ar gyfer Ceisiadau Cynllunio (1APP) yn helpu i symleiddio’r broses o wneud ceisiadau cynllunio trwy ddisodli’r holl ffurflenni cyfredol ar gyfer ceisiadau cynllunio am 1 ffurflen i bob cais.
Gallwch wneud cais ar-lein yma: Ceisiadau Ar-lein neu lawrlwytho’r ffurflenni yma: Ffurflenni cais
Cyflwynwyd 1APP gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lle’r holl fathau presennol o ffurflenni ceisiadau cynllunio (ac eithrio mwynau) yng Nghymru a Lloegr.
Cyn hyn, byddai Awdurdodau Cynllunio Leol fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynhyrchu eu ffurflenni ceisiadau cynllunio eu hunain. Yn aml, byddai’r rhain yn wahanol i’w gilydd ac yn anghyson o safbwynt pa wybodaeth y byddent yn gofyn i ymgeiswyr ei darparu.
Mae 1APP yn dileu’r gwahaniaethau rhwng ffurflenni cais trwy sicrhau bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru a Lloegr yn gofyn am yr un wybodaeth ar gyfer ceisiadau tebyg. Mae’r safoni hyn yn helpu i wneud y system gynllunio’n gliriach ac yn fwy effeithlon i weithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac i’r cyhoedd fel ei gilydd.
Y ffurflen newydd fydd yr unig ffordd gyfreithlon o wneud cais am ganiatâd cynllunio (ac eithrio mwynau) yng Nghymru o 1 Hydref 2008 ymlaen.
Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ymhlith y cyntaf i fabwysiadu 1APP (yn gydradd drydydd o blith y 25 awdurdod yng Nghymru). Mae hyn yn caniatáu cyfnod o orgyffwrdd i ymgeiswyr ac asiantau pan fydd yr hen ffurflenni ac 1APP yn cael eu derbyn. O 1 Gorffennaf 2008 ymlaen, gall unrhyw un sy’n gwneud cais cynllunio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol wneud hynny gan ddefnyddio proses ar-lein 1APP yn www.planningportal.gov.uk/apply, gan arbed arian a lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio’n prosesu cais.
Sylwch, os byddwch chi’n gwneud cais ar-lein, tybir ei bod yn well gennych dderbyn gohebiaeth trwy neges e-bost yn hytrach na thrwy’r post oni fyddwch chi’n rhoi gwybod i’r gwrthwyneb.
