Ceisiadau Ar-lein

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig dau wasanaeth gwneud ceisiadau ar-lein gwahanol.

Mynediad Cyhoeddus

System Mynediad Cyhoeddus Newydd wedi'i lansio ar 21 Mehefin 2011

 

Lawrlwythwch ganllaw i ddefnyddwyr (PDF) (Saesneg yn unig)

 
Gall gwasanaeth Mynediad Cyhoeddus Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Saesneg yn unig) gael ei ddefnyddio i:

  • weld hanes ceisiadau cynllunio ar gyfer eiddo
  • gweld ceisiadau presennol, gan gynnwys dogfennau
  • gwneud sylwadau ynghylch cais
  • dod o hyd i eiddo a cheisiadau ar fap rhyngweithiol
  • cadw chwiliadau a chael negeseuon hysbysu drwy e-bost
  • dilyn trywydd cais

Mae nodweddion y dangosydd dogfennau yn cynnwys:

  • Gwelliant mawr mewn cyflymder
  • Mân-luniau o ddelweddau JPG a TIFF
  • Dogfennau’n cael eu grwpio fesul camau’n rhesymegol
    • Cais
    • Ystyried
    • Penderfyniad
    • Monitro Datblygiad
    • Apêl
  • Ffeiliau ZIP i’w lawrlwytho o’r holl ddogfennau ar gyfer cam penodol
  • Pob fersiwn o gynlluniau ar gael i’w gweld
  • Nid yw’r dogfennau’n cael eu tynnu o’r system yn dilyn y penderfyniad
  • Dyddiadau creu’r holl ddogfennau i’w gweld (bydd dyddiad 12/02/09 yn cael ei roi i’r holl ddogfennau o’r hen system)

Fel arfer, bydd dogfennau ar gael cyn pen 48 awr o’u creu neu o’u derbyn.*

Rydym yn gobeithio’ch bod chi’n hoffi’r system newydd.

Os oes unrhyw adborth gennych i’w roi, cysylltwch â ni.

Sylwch na fydd holl fanylion cais i’w gweld.  Bydd hanes sylfaenol cais i’w weld o 1993 ymlaen.  Dylai’r prif ddata testunol fod yn gyflawn yn achos ceisiadau a wnaed o 3 Ebrill 2006 ymlaen, a’r dogfennau cysylltiedig a sylwadau ymgyngoreion o 9 Gorffennaf 2007 ymlaen.

Nid yw’r system ar gael o 9pm tan yn gynnar yn y bore yn ystod pob noson o’r wythnos oherwydd gofynion cynnal a chadw.

*Nid yw ceisiadau i’w gweld hyd nes bod y rhain wedi cael eu dilysu; fel arfer, bydd hyn 5 diwrnod gwaith ar ôl i’r ceisiadau gyrraedd, os nad oes unrhyw broblemau.

 

Porth Cynllunio

Gall Porth Cynllunio y Deyrnas Unedig gael ei ddefnyddio at ddiben:

  • gwybodaeth gyffredinol
  • arweiniad ar reoliadau adeiladu
  • gwybodaeth am arbed ynni a microgynhyrchu
  • arweiniad pellach ar wneud cais
  • gwneud cais ar-lein gan ddefnyddio proses newydd 1APP. Sylwch, os ydych yn gwneud cais ar-lein, tybir ei bod yn well gennych dderbyn gohebiaeth trwy neges e-bost yn hytrach na’r post, oni fyddwch chi’n rhoi gwybod yn wahanol
  • apelio ar-lein

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.