Safleoedd gwarchodedig

Yn y Deyrnas Unedig, mae nifer o ddynodiadau cyfreithiol sy’n gwarchod ardaloedd oherwydd eu tirwedd, eu daeareg neu eu bywyd gwyllt arbennig.

Beth yw safleoedd gwarchodedig?

Mae’r rhain yn safleoedd sydd wedi’u gwarchod o dan gyfraith y DU. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un dynodiad o’r fath, ond gall ardaloedd llai yn y Parc Cenedlaethol gael un neu fwy o ddynodiadau pellach, sydd â’r bwriad o warchod daeareg neu fywyd gwyllt arbennig.

I gael gwybodaeth am y dynodiadau amrywiol, dewiswch o blith y dolenni isod. Mae mwy o wybodaeth am tirweddau arbennig Cymru ar gael gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Ble mae’r rhain?

Gallwch weld map rhyngweithiol o safleoedd gwarchodedig ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Sylwch, nid yw’r map hwn yn cynnig cydraniad digon uchel ar gyfer ceisiadau cynllunio manwl a bydd angen cadarnhau union leoliad ffiniau gyda swyddfa’r Cyngor Cefn Gwlad yn lleol.
 
 
Mae dau ddynodiad yn arbennig o berthnasol: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n cael eu dynodi yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, sy’n cael eu dynodi yn ôl cyfraith Ewrop.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael mwy o wybodaeth am y ddau ddynodiad allweddol hyn.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.