Adar a nythod adar

Caiff pob aderyn a’i nyth (heblaw am rai eithriadau) eu hamddiffyn gan y gyfraith. Gall adar nythu mewn amrywiaeth o leoliadau ac felly mae angen eu hystyried yn y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio a allai effeithio ar gynefin nythu.

Bydd presenoldeb adar sy’n bridio ar safle datblygu yn effeithio ar amseru’r gwaith. Gan fod y nythod wedi’u hamddiffyn hefyd, dylai unrhyw waith a allai effeithio ar adar gael ei wneud y tu hwnt i’r tymor nythu, pan fydd mwy o allu gan adar i symud i fan arall. Derbynnir bod y tymor nythu rhwng 1 Mawrth a 30 Awst, ond gall tywydd cynnes ddiwedd y gaeaf annog adar i nythu mor gynnar â mis Chwefror.

Bydd adar yn nythu mewn canghennau coed a thyllau coed, mewn perthi, y tu mewn i adeiladau ac ysguboriau, o dan estyll bondo neu ar y ddaear, yn ôl y rhywogaeth.  Mae angen i ddatblygiad osgoi tarfu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar y mannau hyn.

Dylai pob datblygwr ddarllen Nodyn Cyngor Cynllunio 21: Tylluanod Gwyn (Saesneg yn unig) cyn cyflwyno cais a allai effeithio ar dylluanod gwyn.

Mae nifer o wahanol flychau nythu, ffotograffau o addasiadau i ysguboriau sy’n cynnwys blychau i dylluanod gwyn a gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gael ar wefan y Barn Owl Trust sydd hefyd yn cynnwys cyngor ar gyfer addasu ysguboriau.

Mae English Nature (bellach Natural England) wedi llunio canllaw i Ddatblygwyr a Chynllunwyr ar gyfer tylluanod gwyn ar safle. Er y bydd llawer o’r wybodaeth hon yn parhau’n berthnasol yng Nghymru, sylwch fod y trefniadau trwyddedu yn wahanol a hefyd y dylech ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn hytrach na Natural England.

Mae Canllaw i adar a’r gyfraith ar gael oddi wrth yr RSPB.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.