Rhywogaethau gwarchodedig

Caiff peth o’n bywyd gwyllt mwyaf prin a bregus amddiffyniad arbennig yn ôl y gyfraith. Trwy adnabod presenoldeb y rhywogaeth warchodedig yn gynnar yn ystod y broses gynllunio, bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio’n llwyr â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Mae’n bosibl parhau i ddatblygu mewn man lle mae rhywogaethau gwarchodedig yn bresennol, ar yr amod bod y datblygwr wedi cael trwydded i wneud y gwaith.

Mae gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â rhywogaethau gwarchodedig ar gael ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Trwyddedau.

Pan fydd cyfreithiau’n ymwneud â rhywogaethau gwarchodedig yn cael eu torri, gall yr Heddlu ymchwilio i’r mater i benderfynu a fu trosedd.

Darllenwch fwy am waith Heddlu Dyfed-Powys ar Troseddau Bywyd Gwyllt.

Mae dyletswydd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ddiogelu bywyd gwyllt. Caiff hon ei chyflawni drwy’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. Gallai fod angen addasu datblygiad sy’n effeithio ar y cynefinoedd a’r rhywogaethau yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth lleol i sicrhau bod y cynefinoedd a’r rhywogaethau hyn yn cael eu diogelu.  Weithiau, gallai caniatâd cynllunio gael ei wrthod os gwneir niwed nad oes modd ei ddadwneud i rywogaeth neu gynefin.

Mae mwy o wybodaeth wedi’i chynnwys yn Arweiniad Cynllunio Cymeradwy’r Awdurdod ar gyfer Bioamrywiaeth gan gynnwys rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael mwy o wybodaeth am rywogaethau penodol neu grwpiau o anifeiliaid.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.