Pyllau, Afonydd a Nentydd
Mae diogelu ansawdd dŵr a’r amgylchedd dŵr croyw yn hynod bwysig yn ystod gwaith datblygu.
Gall newidiadau i ddraenio, i broffil glannau ac i’r llystyfiant ar lannau oll gael effaith hawdd ar ansawdd dŵr am filltiroedd i lawr yr afon. Os na chymerir gofal yn ystod gwaith datblygu, mae potensial i bridd, gwaddodion neu lygryddion a chemegau a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu fynd i mewn i gyrsiau dŵr.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn chwarae rôl allweddol o ran cynghori ar geisiadau cynllunio gerllaw dŵr. Gallwch gael mwy o wybodaeth am rôl Asiantaeth yr Amgylchedd ym maes cynllunio o wefan yr Asiantaeth.
Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i weld mwy o fanylion am wlyptiroedd amrywiol.
