Diben cyntaf y Parc Cenedlaethol yw sicrhau bod prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y dirwedd warchodedig yn cael eu diogelu. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel awdurdod cynllunio lleol, rwymedigaeth i sicrhau bod gwaith datblygu’n briodol i’r Parc Cenedlaethol ac nad yw’n difrodi’r dirwedd a’r bywyd gwyllt arbennig o’n cwmpas.
Mae nifer o ddynodiadau cyfreithiol sy’n gwarchod ardaloedd oherwydd eu tirwedd, eu daeareg neu eu bywyd gwyllt arbennig.
Mae nifer o gyfreithiau allweddol yn y Deyrnas Unedig (DU) sy’n gwarchod bywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae gwybodaeth sylfaenol am bob Deddf wedi’i chynnwys isod, ynghyd â dolen i destun llawn y Ddeddf.
Mae nifer o gyfreithiau’n bodoli sy’n ceisio diogelu rhywogaethau sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd. Er bod y cyfreithiau hyn yn berthnasol ledled Ewrop, mae pob aelod-wladwriaeth yn cynnwys y cyfreithiau oddi mewn i’w fframweithiau cyfreithiol ei hun. Yn y Deyrnas Unedig, gwneir hyn drwy offerynnau cyfreithiol o’r enw Rheoliadau.
Fersiwn diwygiedig Mehefin 2008 o’r AAPG Bioamrywiaeth (Saesneg yn unig)
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
