Cyfreithiau Bywyd Gwyllt y Deyrnas Unedig

Mae nifer o gyfreithiau allweddol yn y Deyrnas Unedig (DU) sy’n gwarchod bywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae gwybodaeth sylfaenol am bob Deddf wedi’i chynnwys isod, ynghyd â dolen i destun llawn y Ddeddf.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Cewch weld testun llawn y Ddeddf yma.

O dan y Ddeddf, mae’n drosedd lladd, anafu, neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt neu ei wyau neu ei nyth yn fwriadol (ac eithrio’r rhywogaethau sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 2). Mae cosbau arbennig ar gael ar gyfer troseddau sy’n gysylltiedig ag adar sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 1, ac mae troseddau ychwanegol yn perthyn i’r rhain, sef tarfu ar yr adar hyn yn eu nythod, neu darfu ar eu hepil dibynnol.

Mae mwy o wybodaeth am warchod adar gwyllt i’w chael ar wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur.

O dan y Ddeddf, mae’n drosedd (â rhai eithriadau) lladd, anafu, neu gymryd, meddiannu neu fasnachu’n fwriadol unrhyw anifail gwyllt sydd wedi’i restru yn Atodlen 5 ac mae’n gwahardd ymyrryd â mannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer lloches neu ddiogelwch, neu darfu’n fwriadol ar anifeiliaid sy’n meddiannu mannau o’r fath. Mae’r Ddeddf hefyd yn gwahardd rhai dulliau penodol o ladd, anafu neu gymryd anifeiliaid gwyllt.

Rhestri o anifeiliaid gwyllt (heblaw am adar) sydd wedi’u diogelu yn Atodlen 5 y Ddeddf.

Mae mwy o wybodaeth am warchod anifeiliaid gwyllt i’w chael ar wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur.

O dan y Ddeddf, mae’n drosedd (â rhai eithriadau) tynnu, dadwreiddio, masnachu neu feddiannu (at ddiben masnachu) unrhyw blanhigyn gwyllt sydd wedi’i restru yn Atodlen 8, ac mae’n gwahardd dadwreiddio planhigion o’r fath yn fwriadol, heb awdurdod.

Dyma restr o’r planhigion gwyllt sydd wedi’u diogelu o dan Atodlen 8 y Ddeddf.

Deddf Gwarchod Moch Daear 1992

Ym Mhrydain Fawr, mae deddfwriaeth yn gwahardd cymryd, anafu, gwerthu, meddiannu neu ladd moch daear ac mae cam-drin unrhyw fochyn daear, difrodi, dinistrio neu darfu ar frochfa neu anfon ci i mewn i frochfa, yn drosedd. Mae’r gwarchod hwn yn ymestyn i’r ardal sy’n uniongyrchol o amgylch y frochfa, a rhagdybir bod pob brochfa’n cael ei defnyddio’n weithgar gan foch daear oni ellir dangos tystiolaeth bendant nad ydynt yn ei defnyddio.

Cewch weld testun llawn y Ddeddf yma.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

Cewch weld testun llawn y Ddeddf yma.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n cryfhau’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Mae Atodlen 9 y Ddeddf yn newid Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gan ddiwygio gweithdrefnau hysbysu am SoDdGA a chynnig mwy o bwerau i amddiffyn a rheoli SoDdGA. Mae’r darpariaethau’n ymestyn pwerau ar gyfer llunio cytundebau rheoli, maent yn cyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddiogelu a gwella SoDdGA ymhellach, ac maent yn cynyddu’r cosbau os bydd euogfarn yn sgil torri’r ddarpariaeth, gyda throsedd newydd lle gall trydydd partïon gael eu dyfarnu’n euog o ddifrodi SoDdGA. Hefyd, mae’n cyflwyno prosesau apêl ynghylch hysbysu, rheoli ac amddiffyn SoDdGA.

Mae Atodlen 12 y Ddeddf yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gan gryfhau’r amddiffyniad cyfreithiol ar gyfer rhywogaethau dan fygythiad. Mae’r darpariaethau’n caniatáu am arestio yn sgil troseddau penodol, maent yn creu trosedd newydd sef tarfu di-hid, yn cyflwyno mwy o bwerau i’r heddlu ac i arolygwyr bywyd gwyllt er mwyn iddynt gael mynediad i eiddo a chael samplau o feinwe bywyd gwyllt at ddiben dadansoddi DNA, ac maent yn galluogi cosbau mwy llym os bydd unigolyn yn euog o droseddau’n gysylltiedig â bywyd gwyllt.

 

Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006

Yn hytrach nag amddiffyn bywyd gwyllt yn uniongyrchol, mae Adran 40 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig yn cyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi ystyriaeth i ddiogelu bioamrywiaeth. Mae Adran 42 y Ddeddf hon yn cyflwyno dyletswydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi rhestr o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd sydd o brif bwysigrwydd yng Nghymru. Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol roi ystyriaeth benodol i’r rhestr hon pan fyddant yn cyflawni’u swyddogaethau, gan gynnwys penderfynu ar geisiadau cynllunio.

Adran 42 – Rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau o brif bwysigrwydd ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth.

Cewch weld testun llawn y Ddeddf yma.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.