Cyfreithiau Bywyd Gwyllt Ewrop
Mae nifer o gyfreithiau’n bodoli sy’n ceisio diogelu rhywogaethau sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd. Er bod y cyfreithiau hyn yn berthnasol ledled Ewrop, mae pob aelod-wladwriaeth yn cynnwys y cyfreithiau oddi mewn i’w fframweithiau cyfreithiol ei hun. Yn y Deyrnas Unedig, gwneir hyn drwy offerynnau cyfreithiol o’r enw Rheoliadau.
Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC.
Mae gan wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur gyflwyniad da i’r Cyfarwyddeb Cynefinoedd neu gallwch weld y testun a’r Atodiadau llawn.
Yn y DU, mae’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn gyfraith trwy gyfrwng Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ac ati) 1994.
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ac ati) 1994
Mae’r gyfraith Ewropeaidd hon, sy’n cael ei galw’n syml yn Rheoliadau Cynefinoedd yn aml, yn cyflwyno dyletswydd i’r Deyrnas Unedig ddynodi cynefinoedd bywyd gwyllt allweddol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae’n gwneud dal, lladd, masnachu a tharfu ar yr anifeiliaid yn Atodlen 2 yn anghyfreithlon, a chodi, casglu, torri, dadwreiddio, dinistrio neu fasnachu’r planhigion sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 4 yn anghyfreithlon. Gall y gweithrediadau hyn gael eu cyfreithloni gan awdurdodau priodol, sef Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru, trwy gyflwyno trwyddedau. Gellir rhoi trwyddedau at sawl diben (fel gwyddoniaeth ac addysg, cadwraeth, gwarchod iechyd a diogelwch y cyhoedd), ond dim ond pan fydd yr awdurdod priodol yn fodlon nad oes unrhyw ddewisiadau eraill boddhaol ac na fydd gweithrediadau o’r fath yn cael effaith andwyol ar boblogaeth wyllt y rhywogaeth dan sylw.
Yn sgil rhai dyfarniadau llys, diwygiwyd y Rheoliadau Cynefinoedd yn 2007. Mae DEFRA wedi llunio canllaw i’r diwygiadau i’r rheoliadau cynefinoedd.
