Coed a Gwrychoedd
Mae coed a gwrychoedd yn rhan bwysig o dirwedd y Parc Cenedlaethol. Maen nhw hefyd yn cynnig cynefin i fywyd gwyllt ac felly, mae’n bwysig eu diogelu a’u gwella mewn cynnig datblygu.
Gallai bron pob coeden neu wrych yn y Parc Cenedlaethol fod o bwys naill ai i fywyd gwyllt neu i dirwedd y Parc. Mae’n bosibl y byddai ar yr ymgeisydd cynllunio angen comisiynu arolwg ecolegol gan ecolegydd trwyddedig a chymwys addas er mwyn gwneud arolwg o ystlumod, pathewod neu rywogaethau gwarchodedig eraill. Os oes rhai cael gwared ar goed neu wrychoedd, mae’n bosibl y bydd angen cael trwyddedau priodol ac ailblannu’r cynefin a gollwyd, neu ei ailosod fel arall.
Nid yw gwneud gwaith ar goed, gan gynnwys cwympo coed, ynddo’i hun yn galw am gael caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, mae coed yn ystyriaeth bwysig yn y broses gynllunio.
Mae sawl dull o warchod coed os oes gwaith yn yr arfaeth a allai effeithio arnynt, ac mae’n bosibl y bydd angen caniatâd amrywiol, gan gynnwys:
- Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth
- Trwyddedau Cwympo Coed a’r Comisiwn Coedwigaeth
- Dynodiadau cadwraeth statudol
- Deddfwriaeth arall
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) – yn enwedig diogelu adar sy’n nythu a/neu ystlumod sy’n clwydo.
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
- Cyfarwyddeb/Rheoliadau Cynefinoedd – caiff ystlumod eu diogelu hefyd gan gyfraith Ewrop.
Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael mwy o fanylion am agweddau penodol ar ddiogelu coed a gwrychoedd.
