Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd

Diben cyntaf y Parc Cenedlaethol yw sicrhau bod prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y dirwedd warchodedig yn cael eu diogelu. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel awdurdod cynllunio lleol, rwymedigaeth i sicrhau bod gwaith datblygu’n briodol i’r Parc Cenedlaethol ac nad yw’n difrodi’r dirwedd a’r bywyd gwyllt arbennig o’n cwmpas.

Nodyn pwysig:

Mae’r holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y tudalennau hyn er arweiniad a gwybodaeth YN UNIG. Yn achos ymholiadau penodol ac wrth wneud ceisiadau cynllunio, dylid cael cyngor cynllunio a/neu gyngor ecolegol arbenigol. Dylid nodi’n gynnar yn ystod y broses ddatblygu a oes angen cael arolygon ecolegol a pha drwyddedau perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer rhai o’r rhywogaethau a warchodir, a hynny cyn cyflwyno’r cais cynllunio yn ddelfrydol. Bydd hyn yn osgoi oedi diangen i’r cais cynllunio.

Arweiniad Cynllunio Cymeradwy’r Awdurdod (AAPG) ar gyfer Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth

Mae diogelu bywyd gwyllt yn rhan annatod o reoli datblygu.  Dylech gyfeirio at yr arweiniad sydd wedi’i ddarparu isod cyn cyflwyno cais cynllunio; mae’r arweiniad hwn ar gael ar ffurf arweiniad llawn a fersiynau cryno i’w defnyddio gan ddeiliaid tai a datblygwyr.

SYLWER: Diwygiwyd y ddogfen hon ym Mehefin 2008 – dylech amnewid unrhyw fersiwn flaenorol â’r fersiwn isod.

AAPG ar gyfer Bioamrywiaeth (Diwygiwyd Mehefin 2008) (Saesneg yn unig)

AAPG ar gyfer Bioamrywiaeth – Taflen i Ddeiliaid Tai (Saesneg yn unig) 

AAPG ar gyfer Bioamrywiaeth – Canllaw i Ddatblygwyr (Saesneg yn unig)

 

Bioamrywiaeth mewn Dylunio - Canllaw Cymunedau Cynaliadwy’r TCPA. Ei nod yw rhoi arweiniad ar sut i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer bioamrywiaeth wrth gynllunio a dylunio cymunedau cynaliadwy. Mae’n ymdrin â phob cam o’r broses ddylunio, gan gyflwyno pecyn o arfer orau all gael ei deilwra yn ôl cyfleoedd ar raddfeydd amrywiol.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael gwybodaeth fwy penodol am bynciau allweddol.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.