Addasu Ysguboriau

Mae llawer o hen ysguboriau carreg ac adeiladau fferm eraill ar draws y Parc Cenedlaethol yn cael eu haddasu’n anedd-dai. Boed yn anghyfannedd neu’n cael eu defnyddio’n rheolaidd, mae’n bosibl eu bod o hyd yn cynnig cartref i adar neu ystlumod. Dylai eu presenoldeb a’r angen am ddarparu ar eu cyfer gael eu hamlygu’n gynnar yn y broses ddatblygu.

Mae ysguboriau ac adeiladau fferm eraill yn gartrefi deniadol i adar ac ystlumod. Fel arfer, maent wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig ac felly’n debygol o fod gerllaw hoff safleoedd bwydo.

Gall ystlumod glwydo mewn unrhyw fath o adeilad a bydd rhywogaethau gwahanol yn ffafrio mannau gwahanol. Mae craciau mewn waliau cerrig, bylchau mewn pren, ysguboriau agored neu ddim ond gofod amgaeedig mewn to oll yn ardaloedd y gallai rhai ystlumod eu defnyddio. Pan fydd rhywun yn addasu ysgubor, mae’n debygol iawn y bydd angen cael arolwg am ystlumod cyn y gellir cymeradwyo cynllunio. Mae’n bwysig iawn nodi rhywogaeth yr ystlum sy’n bresennol yn gywir, ac a yw’n defnyddio’r adeilad i glwydo yn ystod yr haf neu’n safle gaeafgysgu. Bydd hyn yn effeithio ar amseru’r gwaith a pha nodweddion y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun yr adeilad er mwyn caniatáu i ystlumod barhau i ddefnyddio’r adeilad.

Mae sawl ffordd o ddarparu ar gyfer defnydd gan ystlumod, a fydd yn dibynnu ar y rhywogaethau sy’n bresennol. Gall ecolegydd trwyddedig a phrofiadol ym maes ystlumod gynhyrchu arolwg a chamau lliniaru priodol. Os trefnir gwneud yr arolwg yn fuan, gall arbed amser a chost newid cynlluniau ar ôl cyflwyno’r cais.

Mae’n debygol y bydd ar unrhyw waith sy’n effeithio ar ystlumod angen trwydded Rheoliadau Cynefinoedd sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â rhywogaethau gwarchodedig ar gael ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Trwyddedau.

Mwy o wybodaeth am ystlumod a chlwydi ystlumod.


Mae tylluanod gwyn i’w gweld yn aml mewn adeiladau fferm. Mae’r safleoedd mwy naturiol ar gyfer eu nythod, sef mewn coed gwag, bellach yn brin iawn ac felly maent yn dibynnu ar fodolaeth yr adeiladau hyn i’w defnyddio. Mae’r gyfraith yn diogelu’r adar drwy gydol y flwyddyn ond y tu hwnt i’r tymor nythu, nid ydynt mor ddibynnol ar un lleoliad. Mae angen ardal fawr o gynefin addas o gwmpas safle’r nyth ar dylluanod gwyn.  Felly, mae’r adeiladau lle maent yn dewis nythu yn bwysig iawn ac mae’n bosibl na fyddant yn goroesi os oes rhaid iddynt symud oddi yno. Yn gyffredinol, mae’n hawdd darparu blwch ar gyfer tylluan wen neu ddarparu mynedfa i’r to mewn ysgubor wedi’i haddasu. Eto, dylid nodi presenoldeb tylluanod gwyn yn fuan fel bod modd darparu ar eu cyfer yng nghynlluniau penseiri.

Gall adar eraill fel gwenoliaid y bondo a gwenoliaid ddefnyddio adeiladau fferm hefyd. Maen nhw a’u nythod hefyd yn cael eu hamddiffyn yn ystod y tymor nythu ac felly, dylai gwaith gael ei wneud ar ôl iddyn nhw adael. Gall amrywiaeth o nythod neu silffoedd nythu a wnaed yn bwrpasol gael eu cynnwys yn hawdd yng nghynllun adeilad.

Gweld mwy o wybodaeth am adar a nythod adar.


Gall addasu ysgubor effeithio hefyd ar y tir o’i chwmpas. Gallai gwelliannau i lwybrau mynediad, gosod gwasanaethau fel dŵr a thrydan a mynediad ar gyfer peiriannau adeiladu oll effeithio ar fywyd gwyllt. Dylai’r cais cynllunio ystyried yr effaith ar y tir o’i chwmpas, yn enwedig coed, gwrychoedd a phyllau.

Gweld mwy o wybodaeth am coed a gwrychoedd.

Gweld mwy o wybodaeth am pyllau.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.