Adeiladau, ysguboriau a strwythurau eraill.

Mae rhai rhywogaethau’n clwydo gerllaw neu mewn adeiladau a strwythurau eraill. Felly, mae’n rhaid i addasiadau ac adnewyddu arfaethedig roi ystyriaeth i bresenoldeb rhywogaethau gwarchodedig.

Hyd yn oed os nad oes rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith, mae’n bwysig o hyd ystyried rhywogaethau gwarchodedig a all fod yn byw mewn adeilad. Mae’n bosibl y bydd angen cael trwydded i gyflawni’r gwaith neu i wneud y gwaith ar adeg benodol o’r flwyddyn.

 

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddymchwel adeiladau. Mae adeiladau anghyfannedd neu adfeiliedig yn arbennig o ddeniadol i ystlumod a gallai dinistrio clwyd fod yn drosedd a allai fod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu. Cyn gwneud unrhyw waith dymchwel, argymhellir ymgynghori â gweithiwr trwyddedig ym maes ystlumod.

 

Mae gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â rhywogaethau gwarchodedig ar gael ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Trwyddedau.

Ym mhob achos, argymhellir bod datblygwyr a deiliaid tai yn nodi unrhyw broblemau posibl y gallai presenoldeb rhywogaethau gwarchodedig eu hachosi ymhell cyn y bwriedir cynnal y gwaith.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.