Ionawr 2015

DATGANIAD A LLUN I’R WASG

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o gyflwyno bron i £300 i Ymddiriedolaeth Elusennol y Gurkhas yn ystod seminar Aelodau’r Parciau Cenedlaethol y llynedd. Fel cefnogwr hir oes o’r Gurkhas yng Nghymru, gofynnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r aelodau fynd yn ddwfn i’w pocedi yn ystod swper…

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi llwyddo i gyflawni ei ailasesiad ar gyfer Siarter Uwch ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae’r addewid i roi’r hyfforddiant a’r cymorth gorau posibl i’w Haelodau wedi’i gadarnhau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn dilyn dyfarnu’r Siarter Sylfaenol yn 2009 a’r Uwch Siarter yn 2011 - a ail-ddilyswyd ddiwedd y llynedd. Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw’r…

Gweithdy agored i ategu gwasanaeth bws newydd ar ddydd Sul yn y Parc Cenedlaethol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal gweithdy agored ar 4 Chwefror yn Neuadd y Dref Talgarth, er mwyn trafod pa mor ymarferol yw cyflwyno gwasanaeth bws newydd ar ddydd Sul yn cysylltu’r Gelli Gandryll, Aberhonddu, Tal-y-bont ar Wysg, Bwlch, Crucywel, Talgarth, Llan-gors a gorsaf drenau’r Fenni. Gan fod…

Toriadau yn y gyllideb

Yn sgil y gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus, mae’n ofynnol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog leihau costau o fewn y sefydliad a bodloni’i flaenoriaethau strategol yr un pryd.  Y llynedd, nodwyd bod angen arbed £650,000 rhwng 2014/2015 a 2015/2016. Wrth nodi’r arbedion hyn, cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad o gostau’r holl…