Mehefin 2014

Lansio tocyn teithio Paddington – Aberhonddu heddiw

Heddiw, lansiwyd ffilm fer i hyrwyddo ‘tocyn trwodd’ arbennig i rai sy’n teithio o orsaf Paddington Llundain, Reading, Swindon neu Bristol Parkway i Aberhonddu – calon y Bannau. Bydd teithwyr o’r gorsafoedd hynny’n gallu prynu tocyn bws a thrên cyfun sy’n ddilys ar daith trên First Great Western i Gaerdydd…

Ethol Cadeirydd a Dirprwy newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Yn dilyn cyfarfod blynyddol cyffredinol a gynhaliwyd yn swyddfeydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddydd Gwener 27 Mehefin 2014, cafodd y Cynghorydd Geraint Hopkins ei ethol fel y Cadeirydd newydd, a Mrs Melanie Doel ei hethol fel y Dirprwy Gadeirydd, ynghyd â Chadeiryddion a Dirprwyon y Pwyllgorau Cynllunio, Archwilio a Chraffu.…

Agor arddangosfa newydd i ddathlu bywyd cantores opera ym Mharc Gwledig Craig y Nos

Mae’n addas iawn mai dylunydd setiau theatr sydd wedi cwblhau’r gwaith o baratoi arddangosfa newydd hynod drawiadol sy’n dathlu bywyd y gantores opera enwog, Adelina Patti. Agorodd yr arddangosfa i’r cyhoedd ym Mharc Gwledig Craig y Nos yr wythnos hon. Lansiwyd yr arddangosfa ddydd Sadwrn 31 Mai i ddathlu gyrfa’r…

Croeso mawr i ardd natur newydd

Cafwyd diwrnod i’r brenin ddydd Sadwrn 14 Mehefin yn agoriad swyddogol gardd natur a lle chwarae newydd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus. Trwy lwc, roedd y bobl tywydd yn llygad eu lle a daeth dros fil o bobl draw i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus yng…