Rhan 3: Esbonio’r Egwyddorion

1.      Bydd yr Awdurdod mor agored â phosib
Bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael, oni bai fod rhesymau cyfreithiol neu fudd y cyhoedd yn ei atal rhag gwneud hynny.

Dyma enghreifftiau o achosion ble na fyddai’r wybodaeth yn cael ei rhoi i’r cyhoedd:

  • Os yw’r wybodaeth y gwneir cais amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn perthyn i un o’r categorïau o wybodaeth eithriedig sydd wedi’u rhestru yn Atodiadau 1 a 2 ac, os yw’n berthnasol, mae’r budd i’r cyhoedd yn fwy o ddal y wybodaeth yn ôl
  • Os yw eithriad o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn berthnasol
  • Pe bai amodau cyfrinachedd yn cael eu torri
  • Os tybir fod y wybodaeth mewn adroddiadau i bwyllgorau’r Awdurdod yn gyfrinachol neu’n eithriedig o dan Adran 100 Deddf Llywodraeth Leol 1972

Cynhelir cyfarfodydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y pwyllgorau Archwilio a Chraffu a Chynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy yn gyhoeddus. Fodd bynnag, ar adegau, bydd y cyhoedd yn cael eu heithrio pan fydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei thrafod. Bydd hyn yn cael ei nodi ar yr agenda.

2.      Cyflwyno busnes
Bydd yr Awdurdod yn cyflwyno ei fusnes mewn iaith glir ac yn unol â’i gynllun iaith. Bydd yn ceisio llunio dogfennau cryno, hawdd eu darllen ac yn ystyried anghenion gwahanol sectorau’r gymuned, gan gynnwys pobl ag anableddau.

3.      Cynllun cyhoeddi
Mae gan yr Awdurdod gynllun cyhoeddi, sy’n gyfrwng i’r cyhoedd weld y wybodaeth allweddol a gynhyrchir gan yr Awdurdod fel rhan o’i fusnes.

Gwelir y cynllun cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod. Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i wneud y defnydd gorau posib o’i wefan i gyhoeddi gwybodaeth.

4.      Ymateb yn brydlon ac yn gynhwysfawr i gais am wybodaeth
Bydd yr Awdurdod yn ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i geisiadau am wybodaeth.

Os byddwn yn dal gwybodaeth yn ôl a/neu’n methu darparu’r wybodaeth yn y ffurf a ffafrir neu y gwnaed cais amdani gan yr ymgeisydd, byddwn yn esbonio pam.

Mae’n ofynnol i’r Awdurdod ymateb i gais am wybodaeth o dan y Ddeddf neu’r Rheoliadau yn brydlon ac, ym mhob achos, o fewn 20 diwrnod gwaith i’w dderbyn. Mae diwrnod gwaith yn golygu unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu unrhyw ddiwrnod sydd wedi’i ddynodi’n Ŵyl y Banc.

Mae’r cyfnod o 20 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb yn dechrau fel a ganlyn:

  • Y diwrnod ar ôl i’r Awdurdod dderbyn cais, neu
  • Y diwrnod y mae’r Awdurdod yn derbyn rhagor o wybodaeth, fel sydd ei hangen er mwyn adnabod a dod o hyd i’r wybodaeth y gwneir cais amdani

Felly, nid y dyddiad pryd anfonir y cais at y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer ei brosesu yw’r dyddiad derbyn.

Fodd bynnag, os yw cais yn cael ei anfon drwy e-bost, ac os bydd neges ‘allan o’r swyddfa’ awtomatig yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer ailgyfeirio’r neges, ni fyddai’r cais wedi’i dderbyn gan yr Awdurdod nes iddo gael ei ail-anfon i gyswllt arall.

Os nad yw’r Awdurdod yn gallu rhoi’r wybodaeth am ddim ac os bydd yn penderfynu codi ffi, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod bod ffi’n mynd i gael ei chodi. Rhoddir cadarnhad o’r taliad sydd i’w wneud cyn rhoi’r wybodaeth a gwneir cais am y taliad cyn rhoi’r wybodaeth.

Bydd ceisiadau am wybodaeth a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael ateb Cymraeg. Os mai dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau ar gael, byddant yn cael eu hanfon yn Saesneg ond gyda llythyr neu e-bost yn y Gymraeg.

Wrth ddelio gyda chais am wybodaeth, nid yw’n ofynnol i’r Awdurdod ganfod neu greu gwybodaeth nad yw ganddo eisoes. Os ydym yn credu bod gan awdurdod cyhoeddus arall y wybodaeth y gwneir cais amdani, byddwn yn ymgynghori â hwy.

Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod nad yw’r wybodaeth gan yr Awdurdod ac yn cael manylion ynghylch sut mae cysylltu â’r awdurdod perthnasol. Rhoddir opsiwn hefyd, gyda chaniatâd yr ymgeisydd, i’r cais gael ei drosglwyddo i’r awdurdod sydd â’r wybodaeth.

Bydd gwybodaeth sydd ar gael eisoes fel rhan o wasanaeth y codir ffi amdano sydd wedi’i sefydlu’n cael ei rhoi drwy gyfrwng y gwasanaeth hwnnw.

Fel rheol, ni fydd yr Awdurdod yn rhoi gwybodaeth sydd ar gael eisoes yn rhesymol hwylus i’r ymgeisydd, ac yn enwedig unrhyw wybodaeth sydd ar gael o dan y cynllun cyhoeddi. Fodd bynnag, pan wneir cais am wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd a bod y wybodaeth honno ar gael yn electronig, bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried rhag i aelod o’r cyhoedd orfod ymweld â’r swyddfa, er lles cynaliadwyedd.

Bydd yr Awdurdod bob amser mor agored a pharod i helpu â phosib ond bydd, os yw hynny’n briodol, yn gweithredu yn unol â darpariaethau’r Ddeddf gyda cheisiadau blinderus ac ailadroddus am wybodaeth.

Os bydd yr Awdurdod yn gwrthod rhoi’r wybodaeth, bydd yr ymateb yn cynnwys cyngor ar sut mae gwneud cwyn.

5.      Darparu hawl i gwyno
Bydd yr Awdurdod yn darparu hawl i gwyno os nad yw aelod o’r cyhoedd yn fodlon gyda’r ymateb a gafwyd i gais am wybodaeth, neu os bydd yn anghytuno â phenderfyniad i ddal gwybodaeth yn ôl. Os bydd yr Awdurdod yn gwrthod rhoi gwybodaeth, wrth roi gwybod am y penderfyniad, cynhwysir manylion am sut mae gwneud cwyn i’r Prif Weithredwr i ddechrau, a fydd yn sefydlu adolygiad mewnol. Bydd manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cael eu darparu hefyd.

6.      Codi ffi am Wybodaeth
Mae’r Awdurdod yn ceisio sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosib ar gael am ddim. Fodd bynnag, os oes angen gwneud llawer iawn o lungopïau neu argraffu, codir ffi.

Mae’r gost safonol am bob copi fel a ganlyn:

  • Du a gwyn A4 20c
  • Lliw A4 30c
  • Du a gwyn A3 50c
  • Lliw A3 £1.00
  • A2 £3.50
  • A1 £4.00
  • A0 £4.50

Ni fydd yr Awdurdod yn codi ffi am gopïau sy’n costio llai na £2.00 i gyd. Mae pob ffi’n cynnwys TAW. Os bydd y copïau’n cael eu postio, ychwanegwch £1.00 arall i dalu am y postio.

Ceidw’r Awdurdod yr hawl i godi ffi uwch os oes unrhyw hawl statudol i wneud hynny’n berthnasol, neu pan ddarperir dogfennau fel rhan o drafodion cyfreithiol.

Hefyd, efallai bod pris clawr ar rai cyhoeddiadau. Os yw’r wybodaeth ar gael eisoes mewn cyhoeddiad wedi’i brisio, bydd yr Awdurdod yn rhoi manylion y cyhoeddiad ac yn dweud ble mae ar gael.

Os yw eich cais yn debygol o arwain at ffi, bydd yr Awdurdod yn rhoi gwybod i chi am hyn ac yn rhoi cyfle i chi gadarnhau a ydych yn dymuno dal ati gyda’r cais cyn iddo ymgymryd ag unrhyw waith.

Ni fydd yr Awdurdod yn codi ffi am y canlynol:

  • Unrhyw wybodaeth a ddarperir ar wefan yr Awdurdod (ac eithrio pan fo angen copïau papur a bod angen argraffu’n helaeth ar gyfer hyn)
  • Taflenni, ffurflenni a llyfrynnau am ddim am y gwasanaethau rydym yn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd
  • Archwilio cofrestri cyhoeddus a gedwir yn swyddfa’r Awdurdod yn ystod oriau gwaith arferol. Cofiwch mai dim ond mewn un swyddfa fydd copïau o wybodaeth o’r fath yn cael eu cadw o bosib

7.      Gwarchod preifatrwydd
Mae llawer o’r wybodaeth y mae’r Awdurdod yn ei chadw’n bersonol ac yn breifat i unigolion. Ni fydd gwybodaeth o’r fath yn cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth na’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol os bydd hyn yn arwain at fynd yn groes i unrhyw egwyddorion Diogelu Data sydd wedi’u datgan yn Neddf Diogelu Data 1998.

Mae gan unigolion hawl ar wahân i weld data personol amdanynt eu hunain o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Dylid gwneud ceisiadau o’r fath yn ysgrifenedig a’u hanfon at y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd wedi’u nodi ar ddechrau’r Cod hwn, neu drwy e-bost: enquiries@beacons-npa.gov.uk

8.      Sicrhau triniaeth gyfartal
Rhaid gweithredu’r Cod yn gyson gyda phawb, heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, oedran, rhywedd, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol.