Atodiad 3: Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol – eithriadau i’r ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth

Mae’r eithriadau posib canlynol yn berthnasol:

  • Rheoliad 12(4)(a) – nid yw’r wybodaeth gan yr Awdurdod
  • Rheoliad 12(4)(b) – mae’r cais yn ymddangos yn afresymol
  • Rheoliad 12(4)(c) – mae’r cais yn rhy gyffredinol ei natur i allu ymateb iddo
  • Rheoliad 12(4)(d) – mae’r cais am wybodaeth sy’n dal i gael ei chwblhau, am ddogfennau anorffenedig neu am ddata anghyflawn
  • Rheoliad 12(4)(e) – mae’r cais yn cynnwys datgelu cyfathrebu mewnol
  • Rheoliad 12(5) – byddai datgelu’n cael effaith niweidiol ar y canlynol:-

(a) Cysylltiadau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch cenedlaethol neu ddiogelwch y cyhoedd

(b) Cwrs cyfiawnder, gallu person i gael achos teg neu allu awdurdod cyhoeddus i gynnal ymchwiliad o natur droseddol neu ddisgyblaethol

(c) Hawliau eiddo deallusol

(d) Cyfrinachedd gweithrediadau os caiff ei darparu’n unol â’r gyfraith*

(e) Cyfrinachedd gwybodaeth fasnachol neu ddiwydiannol, os caiff ei darparu’n unol â’r gyfraith er mwyn gwarchod budd economaidd cyfreithlon*

(f) Buddiannau’r person a ddarparodd y wybodaeth, os yw wedi ei rhoi’n wirfoddol, nid oes unrhyw amgylchiadau eraill a fyddai’n caniatáu i’r awdurdod ei datgelu ac nid yw’r person wedi rhoi ei ganiatâd i’w datgelu*

(g) Gwarchod yr amgylchedd*

*nid yw hyn yn berthnasol os yw’r wybodaeth yn ymwneud ag allyriadau.

Os oes un neu fwy o’r eithriadau uchod yn berthnasol, wedyn mae’n rhaid ystyried a yw’r budd i’r cyhoedd o gadw at yr eithriad yn fwy na’r budd i’r cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.

Rheoliad 13 – bydd gwybodaeth bersonol sy’n perthyn i rywun arall yn eithriedig os, er enghraifft, byddai ei datgelu’n mynd yn groes i unrhyw rai o’r egwyddorion diogelu data sydd wedi’u datgan yn Neddf Diogelu Data 1998. Nid oes angen defnyddio’r prawf budd y cyhoedd o dan yr amgylchiadau hyn.