Atodiad 2: Eithriadau Cymwysedig

Rhaid defnyddio’r prawf budd y cyhoedd gyda’r eithriadau canlynol. Mae hyn yn golygu bod rhaid rhyddhau’r wybodaeth oni bai fod y budd i’r cyhoedd o’i dal yn ôl yn fwy na’r budd i’r cyhoedd o’i rhyddhau.

  • Adran 22 – Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol
  • Adran 24 – Diogelwch cenedlaethol
  • Adran 26 – Amddiffyn
  • Adran 27 – Cysylltiadau rhyngwladol
  • Adran 28 – Cysylltiadau oddi mewn i’r Deyrnas Unedig
  • Adran 29 – Yr economi
  • Adran 30 – Ymchwiliadau a gweithrediadau a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus
  • Adran 31 – Gorfodi’r gyfraith
  • Adran 33 – Swyddogaethau Archwilio
  • Adran 35 – Ffurfio polisi’r llywodraeth
  • Adran 37 – Cyfathrebu ag Ei Mawrhydi, ac ati
  • Adran 38 – Iechyd a diogelwch
  • Adran 39 – Gwybodaeth amgylcheddol, oherwydd gellir cael y wybodaeth hon drwy’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
  • Adran 40 – Gwybodaeth Bersonol. Gyda rhai rhannau cyfyngedig o’r adran hon rhaid defnyddio’r prawf budd y cyhoedd
  • Adran 42 – Braint broffesiynol gyfreithiol
  • Adran 43 – Gwybodaeth berthnasol i faterion masnachol

Os yw’r Awdurdod yn teimlo bod y budd i’r cyhoedd o ddal y wybodaeth y gwnaed cais amdani’n ôl yn fwy na’r budd i’r cyhoedd o’i rhyddhau, rhaid i’r Awdurdod roi gwybod i’r ymgeisydd am ei resymau, oni bai y byddai gwneud hynny’n golygu rhyddhau’r wybodaeth eithriedig.