Atodiad 1: Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth – gwybodaeth eithriedig

Mae Rhan 2 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn datgan categorïau o ‘wybodaeth eithriedig’, sef gwybodaeth nad oes raid i’r Awdurdod ei datgelu. Mae gan rai o’r categorïau ‘eithriad absoliwt’ rhag datgelu. Mae hyn yn golygu bod yr Awdurdod yn gallu gwrthod ei datgelu’n awtomatig os yw’r wybodaeth yn perthyn i un o’r categorïau hyn.

Os yw’r wybodaeth yn perthyn i un o’r categorïau eraill, mae’n rhaid i’r Awdurdod ddefnyddio’r prawf budd y cyhoedd.

Eithriadau absoliwt

  • Adran 21 – Gwybodaeth sydd eisoes ar gael yn rhesymol hwylus e.e. gwybodaeth sy’n dod o dan y cynllun cyhoeddi
  • Adran 23 – Gwybodaeth a roddwyd gan gyrff sy’n delio â materion diogelwch, neu sy’n berthnasol iddynt
  • Adran 32 – Cofnodion llys
  • Adran 34 – Braint Seneddol
  • Adran 36 – Gwybodaeth sy’n debygol o amharu ar weithredu materion cyhoeddus yn effeithiol
  • Adran 40 – Gwybodaeth bersonol. Ni chaiff unigolion weld data personol amdanynt eu hunain o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan fod hawl ar wahân i fynediad o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Ni ellir rhyddhau data personol am drydydd partïon os yw gwneud hynny’n mynd yn groes i egwyddorion diogelu data. Os credir y byddai rhyddhau gwybodaeth yn mynd yn groes i unrhyw rai o’r egwyddorion diogelu data, nid yw’n angenrheidiol defnyddio’r prawf budd y cyhoedd
  • Adran 41 – Gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol
  • Adran 44 – Gwaharddiadau cyfreithiol ar ddatgelu (er enghraifft, pe bai datgelu’n arwain at ddirmyg Llys)