Gweithio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 1957. Caiff ei weinyddu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n cynnwys 16 aelod a benodwyd gan awdurdodau lleol yr ardal ac 8 aelod a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ganddo hefyd dros 100 o staff.

Os ydych yn chwilio am yrfa sy’n rhoi boddhad i chi gan ddelio â ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn feunyddiol, dyma’r lle i chi. At y diben hwn, rydym wedi cyflwyno ymarferion cyflogaeth arloesol sy’n adlewyrchu pa mor bwysig yw cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Defnyddiwch y ddewislen i gael rhagor o wybodaeth am weithio i’r Parc Cenedlaethol.