Dysgu a Datblygu

Dysgu a Datblygu Staff

Mae’r Awdurdod wedi ei achredu can Buddsoddwyr mewn Pobl ac mae’n gwbl ymrwymedig i ddatblygu a hyfforddi staff i gyrraedd ein nodau busnes.

Caiff holl gyflogeion yr Awdurdod eu hannog i fod yn gyfrifol am eu dysg a’u datblygiad eu hunain yn unol ag Amcanion Corfforaethol y Parc Cenedlaethol. Mae datblygu pobl yn ganolog i strategaeth busnes yr Awdurdod. Er mwyn cefnogi staff i barhau i gyfrannu i’r sefydliad yn y modd gorau posib, bydd angen iddynt ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd. Fel Awdurdod, rydym yn cefnogi unigolion i gymhwyso eu sgiliau newydd i’r gweithle.

Ein Nod:

  • Datblygu sgiliau a gallu holl gyflogeion yr Awdurdod.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth o ddatblygu staff fel buddsoddiad.
  • Dod o hyd i hyfforddiant a datblygiad yn effeithiol, gan ddefnyddio darparwyr mewnol ac allanol.
  • Cefnogi ac annog cyflogeion sy’n ymgymryd ag astudiaethau Proffesiynol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
  • Cefnogi aelodaeth mewn cyrff proffesiynol y mae gwaith yr unigolyn a’r Awdurdod yn elwa o hynny’n uniongyrchol.