Llywodraethu yn y Parc Cenedlaethol
Mae pob corff llywodraeth leol yn gweithredu drwy fframwaith llywodraethu sy’n cyfuno cyfres sylfaenol o ofynion deddfwriaethol, codau moesegol a phrosesau rheoli.
Mae llywodraethu da yn arwain at reoli da, perfformiad da, defnydd da o arian cyhoeddus, ymgysylltu da â’r cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus da. Mae’r Awdurdod yn ymateb i newidiadau yn y trefniadau archwilio o dan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru), a chyn bo hir bydd yn mabwysiadu Cod Llywodraethu a fydd yn amlinellu sut fyddwn yn anelu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a’n hatebolrwydd i’n rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach. Mae’n amlinellu’r systemau a’r prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd a ddefnyddiwn i wneud penderfyniadau a chyflawni swyddogaethau er mwyn cyflawni dibenion a dyletswydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Yn ogystal, cynhaliodd yr Awdurdod arolwg yn ddiweddar o’i ddogfennau rheoleiddio sy’n darparu fframwaith ac arweiniad i aelodau wrth wneud penderfyniadau am y Parc Cenedlaethol:
Gorchmynion Sefydlog
Mae Gorchmynion Sefydlog yn rheoleiddio trafodion, cyfarfodydd a busnes Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i bwyllgorau. Adolygwyd a mabwysiadwyd y rhain ar 20 Mai 2010.
Cynllun Dirprwyo a Chylch Gorchwyl
Hwn yw’r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ac atebolrwydd i’r Awdurdod a phob un o’i bwyllgorau. Mae’n cynnwys rhai gweithgorau a fforymau anffurfiol, nad oes ganddynt gyfrifoldebau am wneud penderfyniadau, ond sy’n gwneud argymhellion i’r Awdurdod. Cafodd y Cynllun Dirprwyo a’r Cylch Gorchwyl eu hadolygu a’u mabwysiadu ar 20 Mai 2010.
Rheoliadau Ariannol
Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn cyfarwyddo bod rhaid i gyrff llywodraeth leol wneud trefniadau i weinyddu’u materion ariannol yn briodol ac y bydd rhai swyddogion yn cael eu dirprwyo i wneud rhywfaint o’r gwaith hwn. I gynnal ei fusnes yn effeithlon mae angen i awdurdod lleol sicrhau bod ganddo bolisïau rheoli ariannol cadarn ar waith ac y cydymffurfir â’r polisïau hynny. Mae’r Rheoliadau Ariannol yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli materion ariannol yr Awdurdod, ac maent yn gymwys i bob aelod a swyddog o’r Awdurdod, yn ogystal ag unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran.
Caffael
Mae’r term ‘caffael’ yn ymwneud â’r broses o gaffael nwyddau, gwasanaethau a gweithiau o’r syniad cychwynnol ac yn ystod oes yr ased neu’r contract gwasanaeth. Mae caffael effeithiol yn hanfodol i gyflawni gwelliant parhau ac i sicrhau gwerth am arian mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n bwysig sicrhau bod penderfyniadau caffael yn gyfreithlon, yn foesegol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod, ac y rhoddir ystyriaeth i’r effaith ar les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y cymunedau yn y Parc Cenedlaethol. Amcan y Gorchmynion Sefydlog sy’n ymwneud â Chontractau yw sicrhau bod gweithdrefnau caffael yr Awdurdod yn gadarn ac yn effeithiol, yn ogystal ag yn dryloyw ac yn unol ag arfer da. Sylwch fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn adolygu’r gorchmynion sefydlog hyn ac yn datblygu Polisi Caffael Cynaliadwy.
Cod Ymddygiad
Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol fabwysiadu cod ymddygiad y gofynnir i bob un o’u haelodau ymrwymo iddo wrth gael eu penodi. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi mabwysiadu Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008. Nod y Cod Ymddygiad yw sicrhau bod Aelodau yn cofrestru ac yn datgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu a all fod ganddynt ym musnes yr Awdurdod, er mwyn hyrwyddo safonau uchel o ran ymddygiad moesegol ac i atal camweinyddu.
Protocol Cynllunio
Gan adeiladu ar y Cod Ymddygiad uchod, nod y Protocol cynllunio yw rhoi cyngor ychwanegol i aelodau yn eu rôl fel yr Awdurdod Cynllunio ar gyfer yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae’n arwain aelodau wrth iddynt ddelio â materion yn gysylltiedig â chynllunio, yn rhoi arweiniad manylach ar y safonau sydd i’w cymhwyso’n benodol mewn perthynas â chynllunio, yn cymhwyso rheolau mewnol i’r ffordd y bydd yr Awdurdod yn delio â materion cynllunio ac yn hysbysu defnyddwyr posibl am y gwasanaeth cynllunio, a’r cyhoedd yn gyffredinol am y safonau a fabwysiedir gan yr Awdurdod wrth gyflawni’i swyddogaeth gynllunio. Cafodd y protocol hwn ei adolygu a’i fabwysiadu ar 20 Mai 2010.
Protocol Aelodau Swyddogion
Mae’r Protocol Aelodau Swyddogion yn arwain aelodau a swyddogion yn eu perthnasoedd proffesiynol â’i gilydd, ac mae’n ceisio rhoi eglurder a sicrwydd. Mae’n adlewyrchu’r egwyddorion sy’n sylfaenol i’r Codau Ymddygiad priodol ar gyfer aelodau a swyddogion, sy’n ceisio gwella a chynnal uniondeb yr Awdurdod yn llygaid y cyhoedd. Cafodd y protocol hwn ei adolygu a’i fabwysiadu ar 20 Mai 2010.
