Dogfennau Ategol

Caiff y prosesau hyn eu defnyddio i asesu polisïau’r Cynllun yn ôl cyfres o amcanion cynaliadwyedd ac amcanion amgylcheddol.  Yn yr un modd, craffwyd ar bolisïau’r Cynllun Rheoli am eu heffeithiau sylweddol tebygol ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd yn y Parc Cenedlaethol ac yng nghyffiniau’r Parc.

Mae’r dogfennau hyn a’r dogfennau ymgynghori cynnar i’w gweld ar y dudalen hon.

Datganiad Cynaliadwyedd 2010

Mae rheoliadau’r Arfarniad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn gofyn bod datganiad ar gael i gyd-fynd â’r cynllun neu’r rhaglen fabwysiedig. Mae’n rhaid i’r datganiad hwn gynnwys gwybodaeth am:

  • Sut mae ystyriaethau cynaliadwy ac amgylcheddol wedi cael eu hintegreiddio i’r cynllun neu’r rhaglen;
  • Sut mae Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd wedi cael ei gymryd i ystyriaeth;
  • Sut mae barn a fynegwyd mewn perthynas â’r ymgynghoriad wedi cael ei hystyried;
  • Y rhesymau dros ddewis y Cynllun fel y’i mabwysiadwyd, yng ngoleuni dewisiadau amgen rhesymol a drafodwyd; ac
  • Y mesurau a fydd yn cael eu cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithredu’r Cynllun.

Datganiad Cynaliadwyedd (Saesneg yn unig)

Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd

Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd

Adroddiad Cwmpasu 2007

Mae Adroddiad Cwmpasu Hydref 2007 yn cynnwys amserlenni perthnasol sy’n ymwneud â chwblhau’r Cynllun Rheoli a’r asesiadau cynaliadwyedd ac amgylcheddol cysylltiedig.

Gweithdai Ymgynghori 2006

Dechreuodd y broses ymgynghori ffurfiol ar gyfer Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol gyda gweithdai i randdeiliaid, a gynhaliwyd dros gyfnod o dridiau ym mis Hydref 2006.  Roedd pob un o’r diwrnodau wedi trafod dibenion a dyletswydd y Parc Cenedlaethol.  Gellir lawrlwytho adroddiad llawn y digwyddiad cyfan i randdeiliaid ar ffurf PDF (gweler y ddolen ar waelod y dudalen).

Fel arall, gall adroddiadau unigol ar bob un o’r tri gweithdy gael eu lawrlwytho ar wahân:

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech gael copi o’r dogfennau hyn ar bapur neu ar CD, cysylltwch â Swyddog Tystiolaeth a Pherfformiad, trwy neges e-bost neu trwy ffonio’i linell uniongyrchol 01874 620465.