A ydych chi eisiau siarad mewn cyfarfod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?

Mae hefyd ar gael fel

 

Dylech lenwi 

 

a rhoi gwybod i ni pa gyfarfod rydych yn dymuno’i annerch – dyma’r dewisiadau:

Cyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol (APC): i godi materion yn ymwneud ag eitemau ar agenda’r APC sydd wedi’i gyhoeddi ar y wefan. Cynhelir cyfarfod yr APC bob deufis erbyn 10.00am y dydd Mawrth cyn y cyfarfod fel arfer. I siarad, mae angen i chi anfon ffurflen wedi’i llenwi i  publicspeaking@breconbeacons.org
erbyn 10.00am y dydd Mawrth cyn y cyfarfod

 

neu cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor:

Julia Gruffydd ar 01874 620400
neu Angharad Hawkes ar 01874 620438.

Y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy: i godi materion ynghylch ceisiadau cynllunio neu faterion yn ymwneud â mynediad a hawliau tramwy ar yr agenda sydd wedi’i gyhoeddi ar y wefan. Cynhelir y pwyllgor hwn ar ddydd Mawrth unwaith bob 6 wythnos fel arfer.  I siarad am fater yn ymwneud â chynllunio, mynediad neu hawliau tramwy, mae angen i chi anfon ffurflen wedi’i llenwi i: publicspeaking@breconbeacons.org  erbyn 10.00am y dyddd Gwener cy y cyfarfod

neu cysylltwch â Chlercod y Pwyllgor:

ar gyfer materion Cynllunio
Danielle French ar 01874 624437

neu Jane Pashley ar 01874 620414

ar gyfer materion Mynediad a Hawliau Tramwy:
Julia Gruffydd ar 01874 620400
neu Angharad Hawkes ar 01874 620438.

Y Pwyllgor Archwilio a Chraffu: i godi materion yn ymwneud ag eitemau ar yr agenda Archwilio a Chraffu sydd wedi’i gyhoeddi ar y wefan. Cynhelir y pwyllgor hwn chwe gwaith y flwyddyn fel arfer. I siarad mae angen i chi anfon ffurflen wedi’i llenwi i publicspeaking@breconbeacons.org erbyn 10.00am y dydd Mawrth cyn y cyfarfod.

neu cysylltwch â Julia Gruffydd ar 01874 620400

neu Angharad Hawkes ar 01874 620438.

Dylech e-bostio testun eich sylwadau cyn y cyfarfod i  publicspeaking@breconbeacons.org  a rhoddir hwn ar y ffeil fel mater o gofnod cyhoeddus.  Fel arall, gallwch gyflwyno copi caled o’ch cyflwyniad i’w roi ar y ffeil.  Os na rowch gopi o’ch testun, yna’r unig beth a gofnodir yw p’un a siaradoch o blaid neu yn erbyn y cais.

Lleoliad y Cyfarfodydd: Cynhelir cyfarfodydd yn swyddfeydd yr Awdurdod ym Mhlas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu, LD3 7HP ac maent yn dechrau am 10.30am.

Parcio a Mynediad: Gallwch barcio yn y maes parcio mawr nes ymlaen o’r swyddfeydd, ac mae parcio i bobl anabl yn y lle parcio i ymwelwyr wrth y dderbynfa. Mae mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i’r cyfarfodydd, ond cysylltwch â’r Dderbynfa ar 01874 624437 os oes gennych anghenion arbennig neu bryderon.  Cyhoeddir yr agenda ar y wefan o dan Amserlen y Pwyllgorau.

Recordio cyfarfodydd: Sylwch na allwch ddefnyddio offer recordio mewn unrhyw gyfarfodydd o’r Awdurdod, er bod croeso i chi wneud nodiadau os dymunwch.  Bydd y cofnodion swyddogol ar gyfer pob cyfarfod ar gael yn y cyfarfod nesaf.

Mae rheolau’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy yn fwy cymhleth, felly mae’r adran nesaf yn delio â’r Pwyllgor hwn:

Y Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy
Mae’r cyngor hwn ar gyfer unigolion, grwpiau cymunedol lleol, grwpiau â buddiant ac ymgeiswyr.  Rydym am sicrhau bod barnau pob parti â buddiant wedi cael ystyriaeth. Er mwyn gallu siarad, sylwch fod rhaid i chi lenwi ffurflen a’i hanfon yn ôl atom erbyn 10.00am y dydd Gwener cyn y cyfarfod y dymunwch ei annerch.

Gall unrhyw aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fynychu a siarad yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau.  Pe bai’n berthnasol, rhaid i aelod ddatgan buddiant mewn mater penodol – mae hyn yn golygu na fydd wedyn yn siarad nac yn pleidleisio ar y mater yn y cyfarfod.

Mae siarad yn gyhoeddus ond yn ymwneud â cheisiadau cynllunio ac unrhyw faterion hawliau tramwy a mynediad sydd i’w penderfynu gan aelodau yn y Pwyllgor.

A ydych chi’n pryderu ynghylch datblygiad arfaethedig yn y Parc?
Os ydych chi’n pryderu ynghylch cais cynllunio, gallwch weld yr holl fanylion ar gyfer y datblygiad y mae gennych ddiddordeb ynddo, yn yr adran Cynllunio ar wefan Bannau Brycheiniog – Porth Cynllunio y DU  neu gallwch gysylltu â’r Desg Gymorth ar 01874 620431, a byddant yn esbonio sut y gallwch weld y cynlluniau.

Os ydych am wneud sylwadau ar gais, mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom yn gyntaf  yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod, a gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich sylwadau atom o fewn yr amser hwn.  Bydd hyn yn galluogi swyddogion cynllunio i ystyried pob un o’r materion yn llawn wrth wneud argymhelliad i’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy.

Sylwch: Caiff gwrthwynebiadau i gais byw eu hystyried fel rhan o’r broses gynllunio, ac ystyrir unrhyw faterion a godwch yn ystod proses benderfynu’r cais. Byddwn yn cydnabod derbyn eich llythyr, ond ni fyddwch yn cael llythyr ar wahân yn ymateb i’r pryderon hyn.
 
A oes rhaid i mi siarad yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy er mwyn i’m barnau gael eu clywed?

Hyd yn oed os na allwch fynychu’r cyfarfod, bydd y barnau yr anfonoch i mewn yn ysgrifenedig yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu crynhoi ar gyfer y pwyllgor a’u hystyried.  Gallwch hefyd fynychu’r cyfarfod o’r pwyllgor fel sylwedydd.  Gallwch weld hyn yn ddiddorol os nad ydych wedi cael unrhyw brofiad o gynllunio o’r blaen.

Ai chi yw’r ymgeisydd?
Dylech chi (fel yr ymgeisydd) neu’r asiant (ond nid y ddau ohonoch) lenwi ffurflen er mwyn cael y cyfle i siarad er mwyn cefnogi’ch cais, yn enwedig os gallwch esbonio materion a godwyd neu i ateb gwrthwynebydd. 

Yn anffodus ni allwn oedi rhag gwneud penderfyniad ynglŷn â chais am fod siaradwr yn methu bod yn bresennol am ba reswm bynnag, ond gallwch enwebu rhywun arall i siarad ar eich rhan.  Dylai cyflwyniadau fod yn rhai llafar.  Os ydych am ddarparu unrhyw wybodaeth, bydd angen i chi gyflwyno 30 copi erbyn 10.00am un diwrnod gwaith cyn y cyfarfod ar gyfer aelodau a swyddogion.  Efallai na fydd gwybodaeth nad yw’n cael ei chyflwyno yn y modd hwn yn cael ei rhoi gerbron y Pwyllgor.

Pa bryd fydd y cais y mae gennyf ddiddordeb ynddo yn cael ei ystyried?
Mae’n cymryd mwy o amser i brosesu rhai ceisiadau nag eraill, felly eich cyfrifoldeb chi yw gwybod pa bryd fydd y cais yn cael ei ystyried.  Pa un a ydych yn ymgeisydd, yn wrthwynebydd neu’n barti â buddiant, bydd angen i chi gadw cysylltiad â’r Swyddog Cynllunio i ganfod pa ddyddiad fydd y cais yn cael ei ystyried.  Ar ôl i chi gael dyddiad, ffoniwch Glerc y Pwyllgor (rhestrwyd uchod) bob amser yn ystod y 5 diwrnod gwaith cyn cyfarfod, rhag ofn bod y cais wedi cael ei oedi neu’i dynnu oddi ar yr agenda.

Pan fo mwy nag un aelod o’r cyhoedd o blaid neu yn erbyn cais, rhaid ethol llefarydd. Fodd bynnag, bydd yr holl siaradwyr sy’n cynrychioli barnau sefydliadau gwahanol yn cael siarad.

Beth sy’n digwydd yn y cyfarfod?
Fel arfer bydd ceisiadau’n cael eu hystyried yn y drefn y maent wedi’u rhestru ar yr agenda.  Mae hyn yn golygu na fydd modd bob amser dweud wrthych pa bryd y bydd cais penodol yn cael ei wrando.  Gallai’r cyfarfod gymryd dwy awr neu fwy.

Bydd darpariaethau’n cael eu gwneud ar gyfer y rhai sy’n dymuno annerch y cyfarfod yn Gymraeg, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni o flaen llaw.  Cynhelir y cyfarfod yn Saesneg, fodd bynnag.

Tystiolaeth Newydd, Oediadau ac Ymweliadau Safle
Bydd y rhan fwyaf o benderfyniadau’n cael eu gwneud ar y diwrnod.  O bryd i’w gilydd, gall yr aelodau ohirio penderfyniad, fel arfer i ganiatáu amser i gael mwy o wybodaeth neu i ymweld â’r safle, neu i drafod gwelliannau.

Os oes tystiolaeth newydd yn cael ei rhoi gerbron y Pwyllgor a allai ddylanwadu’n sylweddol ar benderfyniad, gellir oedi’r cais i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn i swyddogion/aelodau wneud asesiad llawn o’r achos.  Yn anffodus, os na wnaethoch gais i siarad yn y cyfarfod gwreiddiol, ni allwch wneud cais i siarad ar y dyddiad gohiriedig nac yn ystod ymweliad safle.

Os siaradoch yn y cyfarfod gwreiddiol gallwch ond siarad pan fydd y cais yn cael ei ailystyried mewn pwyllgor os oes unrhyw faterion newydd yn codi.  Ni fydd cofnodion y Pwyllgor yn cynnwys crynodeb o’ch cyflwyniad, ond fel a ddisgrifiwyd eisoes, dylech gyflwyno copi o’ch cyflwyniad ar gyfer y ffeil.

Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Clerc Pwyllgor perthnasol – rhestrir enwau’r clercod ar ddechrau’r daflen hon.

Beth i’w ddisgwyl – y weithdrefn ar gyfer pob cais yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy:

Gohebiaeth hwyr

Bydd y Swyddog Cynllunio yn rhoi gwybod am unrhyw ohebiaeth berthnasol a dderbyniwyd

Rhagarweiniad a Chyflwyniad, Asesiad ac Argymhelliad
Mae’r Swyddog Cynllunio’n disgrifio’r cynnig, lleoliad y safle, yn amlinellu unrhyw ymatebion gan wrthwynebwyr neu gefnogwyr statudol, yn rhoi’r arweiniad polisi ac yn gwneud asesiad cyffredinol o’r cynnig gydag argymhelliad.

Cefnogwr(Cefnogwyr)
Bydd angen i chi rannu’r amser hwn gyda chefnogwyr eraill os oes mwy nag un aelod o’r cyhoedd yn siarad o blaid y cais, a bydd rhaid dewis llefarydd.  Mae cyfanswm o 3 munud wedi’i neilltuo, er y gall y Cadeirydd gytuno i estyniad at hynny.

Gwrthwynebydd(Gwrthwynebwyr)
Bydd angen i chi rannu’r amser hwn gyda gwrthwynebwyr eraill os oes mwy nag un aelod o’r cyhoedd yn siarad yn erbyn y cais, a bydd rhaid dewis llefarydd.  Mae cyfanswm o 3 munud wedi’i neilltuo, er y gall y Cadeirydd gytuno i estyniad at hynny.

Ymgeisydd neu Asiant
Cyfanswm o 3 munud i ymateb i faterion a godwyd a/neu i esbonio’ch achos o blaid y cynnig.

Swyddog Cynllunio – gall ymateb

Yr Aelodau yn Trafod ac yn Ystyried y Penderfyniad
Ni fydd siaradwyr yn gallu holi siaradwyr eraill, swyddogion nac aelodau.  Bydd y Swyddog Cynllunio hefyd yn ymateb i sylwadau ac yn ateb cwestiynau Aelodau pan fo angen.

Yna bydd y Pwyllgor yn gwneud penderfyniad.