Cynghorion ar gyfer cael gafael ar Agendâu a Chofnodion

Sut alla’i gael gafael ar agendâu?

Mae pob agenda ar gael ar y wefan ryw wythnos cyn y cyfarfod.  Gallwch gael gafael ar bapurau ar ffurf pdf neu html drwy glicio ar y dolenni isod.  Yr unig eithriad yw’r eitemau hynny a fyddai’n torri hawlfraint neu na fyddid yn delio â nhw’n gyhoeddus am resymau cyfrinachedd fel yr amlinellir yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae copi caled o bob agenda ar gael i’w harchwilio ym Mhencadlys y Parc Cenedlaethol, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu. Ffôn 01874 624437.

Ble alla’i gael cofnodion cyfarfodydd?

Mae cofnodion wedi’u rhestru o dan ddyddiad y cyfarfod lle cânt eu cyflwyno i aelodau’r pwyllgor. Felly, er enghraifft, bydd cofnodion ar gyfer cyfarfod ym mis Ionawr yn ymddangos yn y papurau cysylltiedig ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r pwyllgor hwnnw.

A alla’i fynychu cyfarfod?

Mae pob cyfarfod sydd wedi’u rhestru yn agored i’r cyhoedd, a gall aelodau’r cyhoedd annerch y pwyllgor o dan ein Cynllun Siarad yn Gyhoeddus. Yr eithriad yw lle gofynnir i aelodau i ystyried gwybodaeth sydd wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol fel uchod.

Ble alla’i ddod o hyd i agendâu cyn 2007?

Gallwch gael gafael ar agendâu cyfarfodydd a gynhaliwyd cyn 2007 yn yr Adran Archifau.  Gallwch gael gafael ar agendâu cyfarfodydd ers hynny drwy’r prif galendr. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â Julia Gruffydd.

Yn ôl i Aelodau a Phwyllgorau.