View of Central Beacons Maen Llia Standing Stone Fan Foel Ponies

Croeso i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheinog yn cwmpasu 519 o filltiroedd sgwâr (1,344 km²). Sefydlwyd y Parc yng nghanolbarth Cymru ym 1957, ac mae’n cynnwys rhai o’r tirweddau mwyaf cyfareddol ac amrywiol yn Ewrop.

Dyma cartref Pen-y-Fan gyda’i chopa coch gwastad nodweddiadol – copa Hen Dywodfaen Coech uchaf ym Mrhydain, a hefyd  rhai o raeadrau, ogofau a cheunentydd coediog  mwyaf trawiadol Prydain. Mae’r tir yn frith â henebion cynhanes, olion Rhufeinig a chestyll canoloesol.

Daw ymwelwyr atom o bedwar ban y byd i fwynhau’r tirweddau cyfareddol ac i ail-gysylltu â byd natur.  Yma, cewch ymlacio a chewch hefyd antur, gyda rhai o’r cyfleoedd gorau yng Nghymru am gerdded, marchogaeth, beicio, dringo ac ogofa.

Yn 2005, cydnabuwyd Geoparc y Fforest Fawr  yn swyddogol  am ei dreftadaeth ac amrywioldeb daearegol godidog – mae’n cwmpasu hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol – pan enwebwyd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn aelod o Rwydwaith Geoparciau Ewrop sydd yn uchel ei barch a’i gydnabyddiaeth. Dilynwyd hyn yn  2006 gan enwebiad fel Geoparc Byd-eang UNESCO.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.