Y Celfyddydau Perfformio
Theatrau, gwyliau a llawer, llawer mwy!
Arts Alive
Bob blwyddyn, mae gŵyl y Dragon Gateway Festival yn dod â strydoedd Crughywel yn fyw mewn dathliad o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae Arts Alive hefyd yn cynnal detholiad o weithdai a digwyddiadau creadigol drwy gydol y flwyddyn yn Canolfan y Celfyddydau Creadigol, Crughywel.
Cwmni Theatr Red Kite
Sefydlwyd Cwmni Theatr Red Kite yn 2000 gan dîm o weithwyr celf proffesiynol ymroddedig sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal brydferth o amgylch y Gelli ar y Gororau. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Red Kite wedi sefydlu enw da iddo'i hun yn genedlaethol am ei flaengaredd a'i ragoriaeth yn ei waith gyda phobl ifanc a'r gymuned.
Theatr Brycheiniog
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Theatr Brycheiniog wedi sefydlu ei hun yn un o'r prif leoliadau ar gyfer y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Y Neuadd Les, Ystradgynlais
Mae'r canolfan gelfyddydau a chymunedol hon yn lleoliad amlbwrpas ar gyfer perfformiadau cerddoriaeth a theatr byw, a chaiff ffilmiau cyffredinol ac arbenigol eu dangos yno'n rheolaidd.
