Croeso i ‘Dref y Llyfrau’.
Mae’r Gelli yn enwog drwy'r byd i gyd am ei siopau llyfrau ail law (dros 30 ohonynt) gyda thros filiwn o lyfrau ar werth. Rhwng chwilota ymhlith y llyfrau, cewch fwynhau’r bwytai a’r bistros o ansawdd uchel sydd yno i’ch difyrru.
Cewch bori mewn ystod o orielau a siopau dillad a chrefftau sy'n cynnig eitemau gwreiddiol ac unigryw, neu crwydrwch gastell y dref a'i hanes difyr.
Mae’r Gelli Gandryll ar ymylon y Mynydd Du, ac mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg drwy’r dref. Mae’n ganolfan ardderchog i gerddwyr neu unrhyw un sydd am ddefnyddio Afon Gwy i ganŵio neu bysgota.
Cewch gerdded yn eich hamdden ar lannau’r afon, neu ddal bws Ehedydd Clawdd Offa i Benybegwn i fwynhau’r golygfeydd cyfareddol di-dor.
Mae mwy o wybodaeth am yr ardal ar gael o Canolfan Groeso annibynnol y Gelli.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
