Abergavenny River Usk and Llanfoist Bridge near Abergavenny

Y Fenni

Mae'r Fenni'n dref farchnad ffyniannus gydag amrediad ardderchog o siopau ac enw da haeddiannol am fwyd.

Yn y dref hon, ceir cigyddion o ansawdd uchel, ei gwinllan ei hun a gwerthwr pysgod enwog iawn, ac mae’r Gŵyl Fwyd ym mis Medi yn enwog yn genedlaethol. Mae adfeilion trawiadol y castell yn gwgu dros Ddyffryn Wysg, ond canllath neu ddwy o ganol y dref, ac mae'n gartref i amgueddfa wych.

Yn Dolydd y Castell, mae llwybr cerdded mynediad hawdd sy'n addas i sgwteri ar gyfer pobl sydd â phroblemau symudedd.

Mae gwasanaeth trên da i’r Fenni o Gasnewydd, Henffordd a Manceinion, a chysylltiadau hawdd o dde Cymru a Lloegr. Mae'r mynyddoedd sy'n ffinio'r dref – Pen-y-fâl, y Blorens ac Ysgyryd Fawr a Fach – yn rhoi teimlad o fod yng nghanol y mynyddoedd, ond nid o dan fygythiad ganddynt.

Y Fenni yw gwir borth y Parc Cenedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth am yr ardal ar gael o Canolfan Groeso a Chanolfan y Parc Cenedlaethol, y Fenni.

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.