Mae Tal-y-bont yn bentref tlws o dan mynyddoedd canolog y bannau rhwng Afon Wysg a’r gamlas.
Mae Tal-y-bont yn lle gwych i gerddwyr y bryniau, beicwyr a’r sawl sydd am gael teithiau cerdded diddorol, ac mae’n cynnig amrywiaeth o lety, dewis da o dafarnau’n gweini bwyd am brisiau amrywiol, siop bentref a Swyddfa Bost sydd hefyd yn gweithredu fel Pwynt Gwybodaeth y Parc Cenedlaethol.
Mae ei hanes fel pentref â chysylltiad agos â’r gamlas – Camlas Mynwy ac Aberhonddu – sy’n croesi drwy’r pentref, a Tramffordd Bryn Oer, a oedd yn bwysig yn y 19eg ganrif am gludo glo a chalchfaen o gymoedd de Cymru i lawr i’r gamlas. Mae Taith Taf a Thramffordd Bryn Oer yn cynnig llwybrau beicio a cherdded hanesyddol i fyny i’r mynyddoedd.
Os am grwydriad hamddenol, mae taith gerdded Henry Vaughan yn eich arwain o gwmpas y wlad gerllaw, gan gyflwyno’r bardd enwog o’r 18fed ganrif a fu’n byw gerllaw. Mae’r gwelliannau i fynediad, gyda meinciau, sticyllau ac arwyddion ffordd newydd, yn cynnig profiad da i ymwelwyr, ynghyd â’r pyst troi rhyngweithiol sy’n cyflwyno detholiadau o gerddi hynod y brodyr Vaughan.
Mae cyfleoedd gwylio adar a physgota am frithyllod yng Nghronfa Ddŵr Tal-y-bont, yn ogystal â theithiau cerdded hawdd yn ardal fechan y rhaeadrau yn Blaen y Glyn.
Mae’r llwybrau llydan yn Coedwig Tal-y-bont ar ochr ddwyreiniol y gronfa ddŵr yn uno â Thramffordd Bryn Oer a Thaith Taf i gynnig llwybrau cerdded hwy heb rwystrau.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.
Swyddi GwagManylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol
Calendr PwyllgorauManylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.
Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlonGallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.
