Pontneddfechan
Yng Nghwm Nedd, bu Pontneddfechan gynt yn ganolfan bwrlwm a phrysurdeb diwydiannol arloesol.
Heddiw, caiff ymwelwyr eu denu yma i archwilio olion cyfareddol ei orffennol diwydiannol ac i weld rhaeadrau enwog yr ardal.
Tua phen dwyreiniol y pentref, cafodd calchfaen ei gloddio o Graig y Ddinas a'i gludo mewn dramau a dynnwyd gan geffylau i Waith Brics Pont Walby, lle cafodd ei falu i gynhyrchu calch ar gyfer amaethyddiaeth ac adeiladu, a metlin (arwynebau ffyrdd). Gerllaw, mae
Gweithfeydd y Powdwr Du
Dyma un o’r gweithfeydd diwydiannol enwocaf yn yr ardal a'r unig enghraifft o’i fath yng Nghymru ar y pryd. Yn y lle cyntaf, Cwmni Powdwr Cwm Nedd oedd yn berchen arno, ac, ym 1862, cymerodd Messrs Curtis a Harvey drosodd, gan uno nes ymlaen â Chwmni Ffrwydron Nobel. Yn olaf ym 1926 daeth y safle'n rhan o ICI – Diwydiannau Cemegol Ymherodrol Cyfyngedig. Roedd y powdwr du a wnaed yma yn bennaf ar gyfer y pyllau glo a'r chwareli, gan gynnwys chwareli llechi yng ngogledd Cymru.
Dewiswyd y safle yn bennaf oherwydd ei leoliad unig, oherwydd y posibiliadau o ffrwydradau, oherwydd y cyflenwad digonol o ddŵr i yrru’r peiriannau, ac oherwydd y pren a dyfwyd gerllaw ac a ddefnyddiwyd i wneud golosg. Roedd y gweithfeydd yn ymestyn dros ryw 180 o erwau ac yn ymestyn bron dwy filltir, felly'n sicrhau y byddai modd cadw unrhyw ffrwydrad neu dân o fewn rhan fechan o’r gweithfeydd.
Er i raddau helaeth yn adfeilion heddiw, gall ymwelwyr weld rhannau o’r gwaith meini trwchus ac olion llawer o adeiladau. Yn aml, ond tair wal sydd i’r adeiladau hyn: mae'n debyg mai pren oedd y bedwaredd wal a’r to yn wreiddiol, a fyddai wedi chwythu i ffwrdd mewn unrhyw ffrwydrad, ac felly'n gadael y tair wal sylweddol arall yn gyfan! Yn aml, codwyd banciau o bridd â choed wedi eu plannu arnynt rhwng yr adeiladau, a gwyngalchwyd y rhan fwyaf o’r adeiladau a’r waliau fel y byddai modd gweld lle yr oedd powdwr wedi ymgasglu.
Daeth y dŵr i yrru’r peiriannau o ddwy gored a chyfres o ffrydiau melinau a chludwyd defnyddiau crai ar dramffordd – tynnwyd y dramiau gan geffylau â phedolau o gopor er mwyn atal gwreichion. Dechreuai’r gwaith am 7.30 y bore ac ni chaniatawyd mynd ag unrhyw eitemau a allai achosi gwreichion i mewn i’r gweithfeydd. Gwisgwyd llopannau diogelwch a wnaed o ledr a hoelion pren gan weithwyr yn yr adeiladau peryglus ac roedd rhaid i’r menywod wneud heb unrhyw binau gwallt metel neu seliwloid.
Caeodd y gweithfeydd ym 1931 ar ôl i’r Swyddfa Gartref dynnu powdwr du oddi ar y “Rhestr o Ffrwydron Caniataol”. Llosgwyd yr adeiladau prosesu a'u chwalu am resymau diogelwch ym 1932.
Gallwch archwilio'r safle trwy ddilyn Y Llwybr Powdwr
Mwyngloddio Silica
Mwyngloddiwyd craig silica neu gwartsit yn ardal Pontneddfechan o’n hwyr yn y 18fed ganrif hyd at 1964. Dyma graig galed o silicon deuocsid (cwarts) gydag ychydig iawn o amhureddau, sydd yn rhoi toddbwynt uchel iawn iddi.
Datblygwyd dull o gynhyrchu brics tân o ansawdd uchel o graig silica Dinas gan William Weston Young, dyn â chysylltiadau cryfion â Chwm Nedd, a chynhyrchwyd y rhain yng ngweithfeydd brics Pont Walby. Allforiwyd y rhain drwy’r byd, a, hyd heddiw, y gair Rwseg am frics tân yw 'Dinas'.
Defnyddiwyd y dull mwyngloddio ‘colofn a chôr’ oedd yn golygu bod dim angen llawer o bystio, a thaniwyd yn ystod y nos er mwyn caniatáu i’r llwch peryglus setlo cyn gwaith y trannoeth. Nodwedd anarferol o’r gweithfeydd oedd defnyddio rhaffordd; byddai'r defnyddiau a ddaeth allan o’r pwll mewn dramiau yn cael eu hidlo, eu llwytho a'u cludo i lawr o'r pwll mewn cludwyr uwchben.
Mae olion yr hen lefelau a dramffyrdd i’w gweld o hyd heddiw, ond mae archeoleg ddiwydiannol ddiddorol wedi disodli ffyniant masnachol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddaeareg a sgydiau niferus yr ardal yn Canolfan Ymwelwyr y Rhaeadrau ym Mhontneddfechan.
