Aberhonddu

Aberhonddu hanesyddol yw canolbwynt prysur y Parc Cenedlaethol.

Strydoedd cul clòs, adeiladau a'u hwynebau Sioraidd a'r basn camlas adferedig - y cyfan yn adrodd hanes oes a fu. Am ychydig o ddiwylliant, ewch i'r Eglwys Gadeiriol sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, i Amgueddfa Filwrol Cyffinwyr De Cymru, ac Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog. Mae Aberhonddu'n cynnig sawl lle i fwyta ac aros - Marchnad Ffermwyr Brycheiniog yw'r mwyaf yn yr ardal.

Mae adwerthwyr annibynnol, arbenigol, yn cynnig cynhyrchion unigryw a fforddiadwy gyda gwasanaeth cynnes a chyfeillgar. Mae digonedd o fwydydd organig ac arbenigol lleol ar gael ac mae'n werth chwilota am y rhain. Bydd ymwelwyr mwy mentrus yn mwynhau'r siopau awyr agored, y gallu i hurio beiciau a llwybr beicio Taith Taf o Aberhonddu. Gyda'i theatr broffesiynol a'i sinema annibynnol, ei thafarndai a'i bwytai, a'i chanolfan hamdden ar gyfer diwrnodau diflas, mae rhywbeth i'w wneud bob amser yn y dref farchnad fendigedig hon.

Cewch fwy o wybodaeth am yr ardal o Canolfan Groeso Aberhonddu.

 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.