Mannau Gwyllt
Mae llu o fannau gwych yn y Parc Cenedlaethol i chi â’ch teulu fwynhau rhyfeddodau byd natur.
Dyma ddetholiad o’r mannau hynny sydd fwyaf hawdd eu cyrraedd:
Mae Llyn Syfaddan (Llyn Llan-gors) yn gartref i guddfan adar ar ei lannau gorllewinol ac mae yma ddolydd blodau gwyllt sy’n fyw o loÿnnod byw yn yr haf. Fel arall, ewch i ymweld â’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn Craig y Cilau, yn Craig Cerrig-gleisiad, neu ewch i Ogof Ffynnon Ddu ger Pen-y-cae yng Nghwm Tawe Uchaf lle gallwch weld un o’r ardaloedd gorau o galchbalmant yn y Parc.
Mae Cronfa Ddŵr Talybont yn lle da i adar mudol ac adar sy’n gaeafu, a chewch eich rhyfeddu o weld cymaint o amrywiaeth o fwsoglau, llysiau'r afu a ffyngau yng nghoedwigoedd hynod gyfoethog ardal y Rhaeadrau.
Mae Talgarth yn ganolfan ragorol, gyda Llan-gors gerllaw a choedwigoedd arbennig fel gwarchodfa Pwll y Wrach Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog neu Coed y Parc Coed Cadw gerllaw, lle gallwch weld clychau’r gog, blodau’r gwynt a garlleg gwyllt yn y gwanwyn.
Yn olaf mae coed ffawydd ysblennydd mewn ceunant yng Nghwm Clydach neu goedlan gyfoethog o dderw a chyll yng Nghwm Coed y Cerrig.
Ble bynnag yr ewch chi, cofiwch osgoi tarfu ar fywyd gwyllt a’i gartref a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
