Mannau arbennig yn y Parc

Gallech dreulio oes yn y Parc Cenedlaethol heb weld y cyfan sydd yno i’w weld.

Os dim ond ymweld ydych chi, mae rhai mannau y dylech yn sicr fynd i’w gweld cyn gadael.  Bydd y ddewislen ar y chwith yn eich cyfeirio chi at rai o uchafbwyntiau’r Parc. 

Y Parc yn gryno

I’r dwyrain, mae’r Mynydd Du, ac mae’r pwynt uchaf yma yn 811 metr yn Waun Fach. Mae’r Mynydd Du yn y fan hon hefyd yn creu ffin naturiol â Swydd Henffordd yn Lloegr.

Mae Canol y Bannau (sy’n rhoi i’r Parc ei enw) yn dominyddu’r gorwel i’r de o dref Aberhonddu ac yn esgyn i 886 metr ym Mhen y Fan, sef y pwynt uchaf yn ne Prydain.

Ymhellach i’r gorllewin y mae masiff tywodfaen Fforest Fawr, sydd ar ffurf cyfres o fryniau o’r enw 'Bannau', gyda’r pwynt uchaf yn Fan Fawr yn 734 metr. Mae dŵr sy’n rhuthro tua’r de o’r ardal hon wedi creu dyffrynnoedd afon serth gyda rhaeadrau rhyfeddol.

Y darn mwyaf deheuol o dywodfaen yw’r Mynydd Du, gyda’i uchafbwynt ar gopa Ban Brycheiniog sy’n 802 metr uchel ac sy’n cynnwys dau lyn rhewlifol hudol Llyn y Fan Fach a Llyn y Fan Fawr. 

Gweithredoedd Dogfen
Beth sy'n newydd
Mwy o newyddion

Cadwch yn gyfoes gyda newyddion y parc mis yma.

Swyddi Gwag

Manylion swyddi gwag yn y Parc Cenedlaethol

Calendr Pwyllgorau

Manylion cyfarfodydd Pwyllgorau sydd i ddod.

Adroddwch gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon

Gallwch adrodd gyrru oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon i'r Heddlu yma.